Neidio i'r cynnwys

Y Lan Orllewinol

Oddi ar Wicipedia
y Lan Orllewinol
Mathrhanbarth Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Iorddonen, gorllewin, shore, Jwdea, Samaria Edit this on Wikidata
LL-Q55633582 (ajp)-Khalil.rantissi-الضفّة الغربيّة.wav Edit this on Wikidata
PrifddinasRamallah, Dwyrain Caersalem Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,881,687 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1949 (1949 Armistice Agreements) Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGwladwriaeth Palesteina, Y Dwyrain Canol, Palesteina, Tiriogaethau Palesteinaidd, tiriogaethau Palesteinaidd a feddianwyd gan Israel Edit this on Wikidata
LleoliadDe Lefant Edit this on Wikidata
SirGwladwriaeth Palesteina, Judea and Samaria Area Edit this on Wikidata
GwladGwladwriaeth Palesteina, Israel, Gwlad Iorddonen Edit this on Wikidata
Arwynebedd5,860 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr Marw, Afon Iorddonen, Môr Galilea Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaIsrael, Gwlad Iorddonen Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau32°N 35.35°E Edit this on Wikidata
WBK Edit this on Wikidata
Map
ArianSicl newydd Israel Edit this on Wikidata
Map o'r Lan Orllewinol

Y Lan Orllewinol yw'r enw ar un o Diriogaethau Palesteinaidd yn y Dwyrain Canol ar lan orllewinol Afon Iorddonen, rhwng Israel yn y gorllewin a Gwlad Iorddonen yn y dwyrain. Un o'r symbolau yn erbyn Israel yw merch ifanc o'r enw Ahed Tamimi, a garcharwyd heb dreial yn 2017 am herio plismyn arfog.

Daearyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Mae'n cynnwys bryniau Judaea a Samaria a rhan o ddinas Jeriwsalem. Mae prif ddinasoedd a threfi'r Lan Orllewinol yn cynnwys Jenin, Nablus, dwyrain Jeriwsalem, Bethlehem, Ramallah, Hebron a Jericho. Ceir hefyd ddinas newydd Rawabi.

Yn rhan o Balesteina yn sgîl yr Ail Ryfel Byd, daeth i feddiant Gwlad Iorddonen ar ôl cadoediad 1949 a sefydlu gwladwriaeth Israel. Cafodd ei meddiannu eto gan Israel yn y Rhyfel Chwe Diwrnod Israel-Arabiaidd (1967).

Gweinyddiad

[golygu | golygu cod]

Newidiodd polisïau gweinyddiad y Lan Orllewinol yn sgil arwyddo cytundeb Oslo II ym 1995 gan Yasir Arafat a Yitzak Rabin. Rhannwyd y tir yn dri chategori gweinyddol ardaloedd A, B ac C (nid yw'r ardaloedd yn ddi-dor), ac 11 dalgylch. Ar hyn o bryd, mae ardaloedd A, B ac C yn cynrychioli 17%, 24% a 59% o'r arwynebedd yn ôl eu trefn. Mae awdurdod sifil llawn gan yr Awdurdod Cenedlaethol Palesteina yn ardal A, gweinyddir ardal B ar y cyd rhwng yr Awdurdod ac Israel, tra bod ardal C dan reolaeth Israelaidd llawn. Mae'n debyg fod 98% o boblogaeth Palesteina yn byw yn ardaloedd A a B. Erys nifer o drefedigaethau Israelaidd ar y tir mwyaf ffrwythlon yn y gorllewin. Mae Israel yn dal ei gafael ar y rhan fwyaf o'r trefedigaethau, nifer o'r ardaloedd gwledig, y ffyrdd, y cyflenwad dŵr, yr awyr uwch y Lan gyfan, a'r ardaloedd ar y ffiniau.

Mae Israel wedi codi mur rhyngddi a'r Lan Orllewinol.

Map o'r trefedigaethau a chaedigaethau ers Ionawr 2006. Yr ardaloedd melyn yw'r prif drefi Palesteinaidd. Ardaloedd milwrol caedig, ar ffin y trefedigaethau, neu ardaloedd a ynysir gan Fur Israelaidd y Lan Orllewinol yw'r ardaloedd pinc golau. Gwladychiadau Israelaidd, allbyst a chanolfannau milwrol yw'r ardaloedd pinc tywyll. Dengys y lein du llwybr y Mur.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]