Hebron
| Math | dinas |
|---|---|
| Poblogaeth | 215,452 |
| Gefeilldref/i | Saint-Pierre-des-Corps, Rio de Janeiro |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Llywodraethiaeth Hebron, y Lan Orllewinol |
| Gwlad | Gwladwriaeth Palesteina |
| Arwynebedd | 74.102 km² |
| Uwch y môr | 927 metr |
| Cyfesurynnau | 31.535°N 35.0986°E |
![]() | |
- Gweler hefyd Hebron (gwahaniaethu).
Dinas ar y Lan Orllewinol yw Hebron (Hebraeg: חברון Chevron; Arabeg: الخليل Al Khalil). Ers dechrau 1997, mae 80% o'r ddinas dan reolaeth Awdurdod Cenedlaethol Palesteina a'r gweddill yn cael ei rheoli gan Israel. Roedd y boblogaeth yn 2006 tua 167,000, bron i gyd yn Balestiniaid, ac eithio tua 600 o Iddewon.
Mae Hebron yn un o ddinasoedd hynaf y Dwyrain Canol. Gerllaw Hebron mae Ogof y Patriarchiaid, lle dywedir bod Abraham, Sara, Isaac a Rebecca wedi eu claddu. Mae'n fangre sanctaidd mewn Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam. Yn Hebron y cyhoeddwyd Dafydd yn frenin teyrnas Israel ac oddi yno y bu'n teyrnasu hed nes iddo goncro Jeriwsalem.
Yn 1929, lladdwyd 69 o Iddewon gan y Palestiniaid, a gorfodwyd y gweddill o'r boblogaeth Iddewig i ffoi. Yn 1994 lladdwyd 29 o bobl oedd yn gweddïo ym Mosg Ibrahimi gan Baruch Goldstein, meddyg Americanaidd-Israelaidd, ac anafwyd 125 arall.
