Ogof y Patriarchiaid

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ogof y Patriarchiaid
Hebron Cave of the Patriarchs.jpg
Mathmosg, synagog, beddrod, safle archaeolegol, mawsolëwm Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladY Lan Orllewinol, Israel, Israel Edit this on Wikidata
Uwch y môr890 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.524672°N 35.110758°E Edit this on Wikidata
Beddrod Abraham (Ibrahim) yn ei greirfa uwchben yr ogofâu.

Cyfres o ogofâu tanddaearol yn ninas Hebron ar y Lan Orllewinol yw Ogof y Patriarchiaid neu Ogof Macphela (Hebraeg: מערת המכפלה, Me'arat HaMachpela, Arabeg: المغارة Al Magr).

Y safle yma yw'r ail safle fwyaf sanctaidd, ar ôl Jeriwsalem, mewn Iddewiaeth, ac mae hefyd yn cael ei hystyried yn safle sanctaidd gan Islam a Christnogaeth. Yn ôl traddodiad, yma y claddwyd Abraham a'i wraig Sarah, ac Isaac a'i wraig Rebecca. Yn ôl rhai traddodiadau, mae Adda ac Efa a Jacob a Leah wedi eu claddu yma hefyd, ynghyd a phen Esau. Yn ôl rhai ffynonellau Islamaidd, yma mae bedd Joseff hefyd.

Yn ôl Llyfr Genesis, prynodd Abraham y safle oodi wrth Ephron yr Hethiad pan fu farw ei wraig, Sarah, gan dalu 400 shekel arian am y tir. Adeiladodd Herod Fawr fur o amgylch y safle. Yn ddiweddarach, adeiladwyd mosg yma.

Yn 1994, lladdwyd 29 o weddiwyr yn y mosg ac anafwyd 125 arall gan Baruch Goldstein.

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: