Y Croesgadau
- Mae'r erthygl hon yn ymwneud â Chroesgadau'r Oesoedd Canol. Am enghreifftiau eraill o'r gair Croesgad (neu Crŵsad), gweler Croesgad (gwahaniaethu) a Croesgadwr.
Anturiaethau milwrol gan Wledydd Cred (gwledydd Cristnogol gorllewin Ewrop) a drefnid yn bennaf er mwyn adfeddiannu lleoedd cysegredig Palesteina oddi ar y Mwslemiaid yn ystod yr Oesoedd Canol oedd y Croesgadau. Cydnabyddir saith croesgad hanesyddol ond mae eu diffinio felly yn tueddu i anwybyddu'r ffaith fod hon yn broses barhaol gyda'r croesgadau "swyddogol" yn cynrychioli penllanw neu drobwynt yn ei hanes.
Cynnwys
Hanes y Croesgadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Y Groesgad Gyntaf[golygu | golygu cod y dudalen]
- Prif erthygl - Y Groesgad Gyntaf
Ymladdwyd y Groesgad Gyntaf o 1095 i 1099. Fe'i lawnsiwyd dan oruchwyliaeth a nawdd y Babaeth. Arweiniodd Pedr y Meudwy fyddin yn erbyn lluoedd Kilij Arslan, swltan Nisé, ond fe'i trechwyd ganddo. Y flwyddyn ganlynol cipiodd y Croesgadwyr Nisé a threchwyd Kilij ym mrwydr Dorylé. Roedd 1098 yn flwyddyn gofiadwy i'r goresgynwyr; cipiwyd Edessa ac Antioch a chreuwyd taleithiau Croesgadwrol ynddynt a chafodd byddin Mwslemaidd dan arweinyddiaeth Karbouka o ddinas Mosul ei threchu. Yn 1099 cipiwyd Caersalem a Thripoli. Yn y Ddinas Sanctaidd ei hun coronwyd y fuddugoliaeth â chyflafan ddychrynllydd ar y trigolion, yn Iddewon, Cristnogion Uniongred a Mwslemiaid yn ddi-wahân.
Yr Ail Groesgad[golygu | golygu cod y dudalen]
- Prif erthygl - Yr Ail Groesgad
Cwymp talaith Edessa i'r Saraseniaid yn 1144 oedd yr ysbardun i'r Ail Groesgad, aflwyddianus.
Y Drydedd Groesgad[golygu | golygu cod y dudalen]
- Prif erthygl - Y Drydedd Groesgad
Cwymp dinas Caersalem i Saladin yn 1187 oedd yr ysbardun a arweiniodd at gyhoeddi'r Drydedd Groesgad yn 1189. Yr arweinwyr oedd Phylip II Awgwstws o Ffrainc, yr Ymerodr Glân Rhufeinig Ffrederic Barbarossa a Rhisiart Lewgalon o Loegr. Parhaodd hyd 1192.
Y Bedwaredd Groesgad[golygu | golygu cod y dudalen]
- Prif erthygl - Y Bedwaredd Groesgad
Yr amcan wrth lawnsio'r Bedwaredd Groesgad (1202 - 1204) oedd cipio'r Aifft, ond roedd yr amgylchiadau yn erbyn hynny ac yn y diwedd saciwyd un o ddinasoedd pwysicaf y byd Cristnogol gan y Croesgadwyr annisgybliedig, sef Caergystennin.
Y Croesgadau Olaf[golygu | golygu cod y dudalen]
- Prif erthyglau - Y Bumed Groesgad, Y Chweched Groesgad, Y Groesgad Olaf
Methiannau trychinebus fu pob un o'r tair croesgad olaf yn ystod y 13g. Erbyn 1291 roedd caer hollbwysig Acre ym Mhalesteina, amddiffynfa olaf y Croesgadwyr yn y Lefant, wedi syrthio ac roedd y Croesgadau ar ben.
Arwyddocád y Croesgadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Ar yr ochr bositif, agorodd y Croesgadau ffenestr newydd i'r Gorllewin ar ddysg y Groegiaid. Daeth llawysgrifau o weithiau gan Aristotlys ac eraill i orllewin Ewrop ac roedd hyn yn sail i'r adfywiad dysg a welid yn ystod y Dadeni. Cyfoethogwyd Ewrop gan mathemateg y Mwslemiaid yn ogystal, yn arbennig ym maes algebra (oedd yn ddiarth i Ewropeiaid cyn hynny).
Llên a chelfyddyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Llyfryddiaeth ddethol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Amin Maalouf, Les croisades vues par les Arabes (Paris, 1985; argraffiad newydd, Editions J'ai Lu, Paris, 2003). Golwg ar y Croesgadau o safbwynt yr Arabiaid).