Neidio i'r cynnwys

Cytundebau Oslo

Oddi ar Wicipedia
Cytundebau Oslo
Math o gyfrwngcytundeb Edit this on Wikidata
Rhan oy broses heddwch yn y gwrthdaro rhwng Israel a Phalestina Edit this on Wikidata
Yn cynnwysOslo 1 Accord, Oslo II Accord Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Casgliad o gytundebau rhwng Mudiad Rhyddid Palesteina a Llywodraeth Israel yw Cytundebau Oslo. Arwyddwyd Cytundeb Oslo 1 yn Washington, D.C. yn 1993[1] a Chytundeb Oslo II yn Taba, Yr Aifft yn 1995.[2]

Daeth y Cytunebau yn rhannol yn sgîl Intifada Cyntaf Palesteina - gwrthdaro torfol rhwng radicaliaid Palesteinaidd a lluoedd Israel rhwng 1987 ac 1991.

Mae'r cytundebau hyn yn gychwyn y broses a elwir yn 'Broses Oslo' sy'n ymgais i gyrraedd heddwch wedi'i sefydlu ar Benderfyniad 242 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig a Phenderfyniad 228 y CDCU, ac i "roi'r hawl i Balesteiniaid i benderfynu drostynt eu hunain".[3] Cychwynodd y negydu cyfrinachol rhwng y ddwy ochr, a roddodd fodolaeth i'r cytundebau, yn Oslo, Prifddinas Norwy. Ffrwyth y negydu hwn oedd cydnabyddiaeth o Wladwriaeth Israel gan y PLO a chydnabyddiaeth o'r PLO gan Wladwriaeth Israel. Ystyriwyd y ddwy ochr yn bartneriaid yn ystod y negydu.

Rhoddodd Trafodaethau Oslo fodolaeth i Awdurdod Cenedlaethol Palesteina, sy'n gyfrifol am hunanlywodraethu rhannau o'r Lan Orllewinol a Llain Gasa. Roedd y Trafodaethau hefyd yn gydnabyddiaeth fod y PLO yn bartneriaid wrth negydu materion eraill e.e. ffiniau Palesteina ac Israel a gwladychu rhannau o Balesteina gan yr Israeliaid yn ogystal â statws Jeriwsalem gan y ddwy ochr. Ni chreodd y Cytundebau, fodd bynnag, Wladwriaeth Palesteina.[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Declaration of Principles on Interim Self-Government Arrangements (DOP), 13 Medi 1993. O wefan Knesset
  2. Israeli-Palestinian Interim Agreement on the West Bank and the Gaza Strip, 28 Medi 1995. O wefan Knesset
  3. Y geiriau a ddefnyddir yn y gwaith gwreiddiol yw: "right of the Palestinian people to self-determination".
  4. Mideast accord: the overview; Rabin and Arafat sign accord ending Israel's 27-year hold on Jericho and the Gaza Strip. Chris Hedges, New York Times, 5 Mai 1994.
    Quote of Yitzhak Rabin: "We do not accept the Palestinian goal of an independent Palestinian state between Israel and Jordan. We believe there is a separate Palestinian entity short of a state."