Intifada Cyntaf Palesteina

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolIntifada Edit this on Wikidata
Dyddiad13 Medi 1993 Edit this on Wikidata
GwladBaner Palesteina Palesteina
Rhan oGwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd, Intifada Edit this on Wikidata
Dechreuwyd8 Rhagfyr 1987 Edit this on Wikidata
Daeth i ben13 Medi 1993 Edit this on Wikidata
Lleoliady Lan Orllewinol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Roedd Intifada Cyntaf Palesteina, Intifada Cyntaf y Palesteiniaid, neu'r Intifada Gyntaf neu "intifada") yn [1] wrthryfel gan Arabiaid Palestinaidd yn erbyn meddiant Israel o diriogaeth Palestina ac yn enwedig y Lan Orllewinol,[2] a barhaodd o fis Rhagfyr 1987 tan Gynhadledd Madrid 1991.[3] Mae'r gair Arabeg 'intifada' ei hun yn derm am wrthryfel a dynodir i sawl gwrthryfel torfol.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Saethiadau fel canran o'r holl achosion yn ystod yr Intiffada

Dechreuodd y gwrthryfel ar 9 Rhagfyr 1987,[4] yng ngwersyll ffoaduriaid Jabalia yn ôl y math o fesurau a marwolaeth yn cynyddu. Ar ochrau Palestina ac Israel, fe gyrhaeddodd y tensiynau rhwng dinasyddion ferwbwynt pan ddamwain byddin Israel i mewn i gar gyda thryc, gan ladd pedwar Palesteiniad.[5] Roedd sibrydion bod y drychineb yn weithred a gyflawnwyd yn fwriadol wedi lledaenu’n gyflym ledled Gaza, y Lan Orllewinol, ac ar draws Dwyrain Jerwsalem (rhan Arabaidd y ddinas).

Mewn ymateb cafwyd streic gyffredinol, boicot sefydliadau gweinyddol sifil Israel yn Gaza a’r Lan Orllewinol, anufudd-dod sifil ar ffurf gorchmynion milwrol a’r boicot economaidd, a arweiniodd at wrthod cynhyrchion Israel, gwrthod talu trethi, gwrthod gyrru ceir Palestina gyda platiau trwydded Israel, graffiti, a barricadau.[6][7] Yn ychwanegol at y boicot, taflwyd cerrig a choctêls Molotov (poteli gwydr yn llawn petrol gyda chlwtyn yn y ceg wedi ei danio) at fyddin Israel a'i seilwaith o fewn tiriogaethau Palestina.

Anfonodd Israel 80,000 o filwyr i chwalu'r gwrthryfel. Yn y ddwy flynedd gyntaf, yn ôl sefydliad Achub y Plant y Cenhedloedd Unedig, cafodd tua 7% o’r holl Balesteiniaid o dan 18 oed anafiadau o ganlyniad i saethu a churiadau. Fe wnaethant fabwysiadu polisi o “dorri esgyrn Palestiniaid” trwy ddefnyddio bwledi go iawn yn erbyn sifiliaid, rhwygo nwy.

Effaith Dynol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymhlith Israeliaid, lladdwyd 100 o sifiliaid a 60 o bersonél IDF [8] yn aml gan filwriaethwyr y tu hwnt i reolaeth UNLU (Arweinyddiaeth Genedlaethol Unedig y Gwrthryfel, Arabeg al-Qiyada al Muwhhada) yr Intiffada,[9] ac anafwyd mwy na 1,400 o sifiliaid Israel a 1,700 o filwyr. Roedd trais o fewn Palestina hefyd yn nodwedd amlwg o'r Intifada, gyda dienyddiad o amcangyfrif o 822 o Balesteiniaid wedi'u lladd fel cydweithredwyr honedig Israel (1988-Ebrill 1994).[10] Ar y pryd, yn ôl pob sôn, cafodd Israel wybodaeth gan ryw 18,000 o Balesteiniaid a oedd dan fygythiad,[11] er bod gan lai na hanner unrhyw gyswllt profedig ag awdurdodau Israel.[12] Cynhaliwyd yr Ail Intifada i ddod rhwng Medi 2000 a 2005.

Canlyniad a Gwaddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Nodwyd yr Intiffada gan ddefnydd o arfau anfecanyddol - cerrig, ffon dafl - a gan hynny dangos y cyferbyniad mewn grym rhwng Lluoedd Israel a natur 'di-rym' dulliau'r Arabiaid ifainc o ymladd
  • Cydnabuwyd yr Intiffada fel achlysur lle gweithredodd y Palestiniaid yn gydlynol ac yn annibynnol ar eu harweiniad neu gymorth gan wladwriaethau Arabaidd cyfagos.[13]
  • Torrodd yr Intifada ddelwedd Jerwsalem fel dinas unedig Israeli. Cafwyd sylw rhyngwladol digynsail, a beirniadwyd ymateb Israel mewn allfeydd cyfryngau a fforymau rhyngwladol.[14]
  • Rhoddodd llwyddiant yr Intifada yr hyder yr oedd ei angen ar Arafat a'i ddilynwyr i gymedroli eu rhaglen wleidyddol: Yng nghyfarfod Cyngor Cenedlaethol Palestina yn Algiers ganol mis Tachwedd 1988, enillodd Yasser Arafat fwyafrif am y penderfyniad hanesyddol i gydnabod cyfreithlondeb Israel; derbyn yr holl benderfyniadau perthnasol gan y Cenhedloedd Unedig sy'n mynd yn ôl i 29 Tachwedd 1947; a mabwysiadu egwyddor datrysiad dwy wladwriaeth.[15]
  • Torrodd Gwlad yr Iorddonen ei gysylltiadau gweinyddol ac ariannol gweddilliol â'r Lan Orllewinol yn wyneb cefnogaeth boblogaidd ysgubol i'r PLO. Achosodd bolisi draddodiadol "Dwrn Haearn" Israel (athroniaeth sy'n deillio o ysgrifau'r Seionydd, Ze'ev Jabotinsky, o ymateb yn chwyrn ac yn galed yn erbyn yr Arabiaid er mwyn iddynt, yn ôl yr athroniaeth, ddeall bod Israel yno i aros a bod rhaid i'r Arabiaid gydnabod a pharchu/ofni hyn a gwneud heddwch o rhyw fath gyda'r Iddewon), danseilio a niweidio delwedd ryngwladol Israel. Torrodd yr Gwlad yr Iorddonen gysylltiadau cyfreithiol a gweinyddol â'r Lan Orllewinol, a chydnabyddiaeth yr Unol Daleithiau o'r PLO fel cynrychiolydd pobl Palestina i Yitzhak Rabin geisio rhoi diwedd ar y trais trwy gyd-drafod a deialog â'r PLO.[16]
  • Yn y maes diplomyddol, roedd y PLO yn gwrthwynebu Rhyfel y Gwlff yn erbyn Irac yr unben Saddam Hussein. Wedi hynny, ynyswyd y PLO yn ddiplomyddol, gyda Kuwait a Saudi Arabia yn torri cymorth ariannol i ffwrdd, a ffodd 300,000-400,000 o Balesteiniaid neu eu diarddel o Kuwait cyn ac ar ôl y rhyfel. Arweiniodd y broses ddiplomyddol at Gynhadledd Madrid a Chytundebau Oslo (Oslo Accords).[17]
  • Roedd yr effaith ar sector gwasanaethau Israel, gan gynnwys diwydiant twristiaeth pwysig Israel, yn hynod negyddol.[18]

Llinell Amser[golygu | golygu cod y dudalen]

Graff gyda chyfodau llywodraethu Prif Weindiogion Israel a chyfnodau'r ddau intiffada fel llinell lliw lelog Første Intifada (Intiffada Cyntaf), gwyrdd Andre Intifada (ail intiffada).

Intifada-diagram-norwegian

Dilynwyd hyn gan yr Ail Intiffada, a ddigwyddodd rhwng Medi 2000 a 2005.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Robert A. Pape, James K. Feldman, Cutting the Fuse: The Explosion of Global Suicide Terrorism and How to Stop It, University of Chicago Press, 2010 p.221.'Palestinian resistance moved from unarmed violent rebellion with no use of suicide attacks in the First Intifada, to large-scale suicide bombings and armed rebellion in the Second Intifada.'(p.237)
  2. Lockman; Beinin (1989), p. [http://books.google.com/books?id=KYPVNdzXUJkC&pg=PA5&dq=%22the+palestinian+uprising+(intifada)+on+the+west_bank+and+gaza+is+said+to+have+begun+on+december+9+1987%22
  3. Nami Nasrallah, 'The First and Second Palestinian intifadas,' in David Newman, Joel Peters (eds.) Routledge Handbook on the Israeli-Palestinian Conflict, Routledge, 2013pp.56-67, p.56.
  4. Edward Said,'Intifada and Independence', in Zachery Lockman, Joel Beinin, (eds.) Intifada: The Palestinian Uprising Against Israeli Occupation,South End Press, 1989 pp.5-22, p.5:'The Palestinian uprising (intifada) on the West Bank and Gaza is said to have begun on December 9, 1987'
  5. David McDowall,Palestine and Israel: the uprising and beyond,University of California Press, 1989 p.1
  6. BBC: A History of Conflict
  7. Walid Salem, 'Human Security from Below: Palestinian Citizens Protection Strrategies, 1988-2005 ,' in Monica den Boer, Jaap de Wilde (eds.), The viability of human security,Amsterdam University Press, 2008 pp.179-201 p.190.
  8. https://www.btselem.org/statistics/first_intifada_tables
  9. https://books.google.co.uk/books?id=sHOMAgAAQBAJ&pg=PA101&redir_esc=y#v=onepage&q&f=false
  10. Human Rights Watch Israel, the Occupied West Bank and Gaza Strip, and the Palestinian Authority Territories, November, 2001. Vol. 13, No. 4(E), p. 49
  11. https://books.google.co.uk/books?id=UF79Qxid7YkC&pg=PA191&redir_esc=y#v=onepage&q&f=false
  12. Ackerman, Peter; DuVall, Jack (2000). A Force More Powerful: A Century of Nonviolent Conflict. New York: Palgrave. ISBN 978-0-312-24050-9.
  13. https://books.google.co.uk/books?id=FRSVtzxH_10C&pg=PA1&redir_esc=y
  14. Shlaim, Avi (2000). The Iron Wall: Israel and the Arab World. London: Penguin. ISBN 978-0-14-028870-4.
  15. Shlaim, Avi (2000). The Iron Wall: Israel and the Arab World. London: Penguin. ISBN 978-0-14-028870-4.
  16. https://web.archive.org/web/20080909204606/http://www.fpri.org/peacefacts/023.199511.sicherman.rabinappreciation.html
  17. Roberts, Adam; Garton Ash, Timothy, eds. (2009). Civil Resistance and Power Politics: The Experience of Non-violent Action from Gandhi to the Present. Oxford: University Press. ISBN 978-0-19-955201-6. tud 37
  18. Noga Collins-kreiner, Nurit Kliot, Yoel Mansfeld, Keren Sagi (2006) Christian Tourism to the Holy Land: Pilgrimage During Security Crisis Ashgate Publishing, Ltd., ISBN 978-0-7546-4703-4 and ISBN 978-0-7546-4703-4