Chwyldro Hwngari, 1956

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Hwngari gyda'r arfbais gomiwnyddol wedi ei thorri allan. Daeth y faner hon yn symbol o'r chwyldro.

Gwrthryfel yn erbyn llywodraeth Gweriniaeth Pobl Hwngari oedd Chwyldro Hwngari, 1956 a barhaodd o 23 Hydref hyd 10 Tachwedd 1956. Cychwynnodd fel gwrthdystiad gan filoedd o fyfyrwyr a orymdeithiodd trwy ganol Budapest i adeilad y Senedd. Ceisiodd carfan o'r myfyrwyr ddarlledu eu gofynion o tu fewn i'r adeilad radio, ond cawsant ei rhwystro a'u dal. Pan fynnodd y torfeydd tu allan i'r myfyrwyr gael eu rhyddhau, dechreuodd Heddlu Diogelwch y Wladwriaeth (ÁVH) saethu ar y torfeydd tu allan o tu fewn i'r adeilad. Ymledodd y newyddion yn gyflym gan esgor ar anhrefn a thrais trwy'r brifddinas.

Ymledodd y gwrthryfel yn gyflym ar draws Hwngari, a chwympodd y llywodraeth. Trefnwyd y bobl yn filisiâu, gan frwydo yn erbyn yr ÁVH a lluoedd Sofietaidd. Daeth llywodraeth newydd i rym a ddatganodd ei bwriad i encilio o Gytundeb Warsaw ac ail-sefydlu etholiadau rhydd. Erbyn diwedd mis Hydref daeth y brwydro i ben bron.

Wedi iddynt ddatgan parodrwydd i drafod enciliad gan luoedd Sofietaidd, newidiodd y Politburo ei feddwl a dechreuodd dinistrio'r chwyldro. Ar 4 Tachwedd, goresgynwyd Budapest ac ardaloedd eraill o'r wlad gan yr Undeb Sofietaidd. Parhaodd gwrthsafiad Hwngaraidd hyd 10 Tachwedd. Bu farw dros 2,500 o Hwngariaid a 700 o luoedd Sofietaidd yn y gwrthdaro, a bu ffoi 200,000 o Hwngariaid fel ffoaduriaid.