Reaganomeg
Jump to navigation
Jump to search
Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth yr Unol Daleithiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Term ar bolisïau economaidd Ronald Reagan, Arlywydd yr Unol Daleithiau (1981–89), yw Reaganomeg. Mae'n crybwyll ffydd yn y farchnad rydd i ffynnu heb ymyrraeth gan y wladwriaeth. Ystyrir Reagonomeg yn fath o neo-ryddfrydiaeth ac economeg ochr-gyflenwad. Y pedair prif syniad oedd gostwng twf gwariant gan y llywodraeth, gostwng y treth incwm ffederal a'r treth ar enillion cyfalaf, lleihau rheoliadau, a pholisi arianyddol o gyfyngu ar y cyflenwad arian i geisio gostwng chwyddiant.