Athrawiaeth Brezhnev

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Enw a roddir ar athrawiaeth polisi tramor a arddelai gan lywodraeth yr Undeb Sofietaidd dan Leonid Brezhnev tuag at wledydd y Bloc Dwyreiniol yw Athrawiaeth Brezhnev. Gwelai'r Undeb Sofietaidd yn ymyrryd mewn llywodraethau'r gwledydd hynny ac yn eu trin fel petai eu sofraniaeth yn ddibynnol ar y Kremlin. Yn sgil y diwygiadau gwleidyddol yn Tsiecoslofacia a elwir Gwanwyn Prâg, cafodd y wlad ei meddiannu gan luoedd yr Undeb Sofietaidd a Chytundeb Warsaw yn Awst 1968.[1] Cafodd yr athrawiaeth ei defnyddio sawl mlynedd wedi'r ffaith i gyfiawnhau'r ymateb yn erbyn Chwyldro Hwngari, 1956. Daeth yr agwedd dra-arglwyddiaethol i ben yn sgil argyfwng Gwlad Pwyl (1980–1981), pan wrthododd y Kremlin i ymyrryd yn filwrol i ostegu protestiadau a streiciau Solidarność.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. G. R. Berridge ac Alan James, A Dictionary of Diplomacy (Basingstoke: Palgrave Macmillan, 2003), t. 24.
Ussr template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Undeb Sofietaidd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.