Cysylltiadau rhwng NATO a Ffederasiwn Rwsia
Enghraifft o'r canlynol | bilateral relation |
---|---|
Math | diplomatic relations |
Gwladwriaeth | Rwsia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn ystod trefn ddeubegwn y Rhyfel Oer, roedd yr Unol Daleithiau a chynghrair milwrol NATO yn ffurfio un bloc o rym yn y Gorllewin, tra bo'r Undeb Sofietaidd a chyngrair Cytundeb Warsaw yn ffurfio'r Bloc Dwyreiniol. Ers cwymp yr Undeb Sofietaidd ym 1991 mae cysylltiadau rhwng NATO a Ffederasiwn Rwsia, y brif wladwriaeth olynol Sofietaidd, wedi bod yn bwnc pwysig yng nghysylltiadau rhyngwladol.
Sefydlu cysylltiadau
[golygu | golygu cod]Dechreuodd cysylltiadau ffurfiol rhwng NATO a Rwsia ym 1991 pan ymunodd Rwsia â Chyngor Cydweithrediad Gogledd yr Iwerydd, a elwir bellach yn Gyngor Partneriaeth yr Ewro-Iwerydd. Ymunodd Rwsia â'r Bartneriaeth dros Heddwch ym 1994.
Rhyfel Cosofo
[golygu | golygu cod]- Gweler hefyd: Rhyfel Cosofo a Ymgyrch Grym Cynghreiriol.
Roedd ymyrraeth NATO yn Rhyfel Cosofo ym 1999 yn isafbwynt yng nghysylltiadau rhwng NATO a Rwsia. Yn ôl nifer o adroddiadau, cafodd Rwsia sicrhâd gan NATO wrth i'r Rhyfel Oer dod i ben na fydd y gynghrair yn ehangu i'r dwyrain, ond o safbwynt Rwsia bu NATO yn llechfeddiannu'n raddol ar dir oedd yn draddodiadol o fewn maes dylanwad Moscfa. Ym Mawrth 1998 pleidleisiodd Rwsia dros Benderfyniad 1160 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig i osod embargo arfau ar Iwgoslafia er mwyn ceisio leddfu gwrthdaro rhwng lluoedd Serbiaidd a Byddin Rhyddhau Cosofo. Gobeithiodd Rwsia bydd hyn yn gynnig terfynol i'r Arlywydd Milošević fel na fydd angen am ymyrraeth filwrol yn Iwgoslafia.[1]
Ym Mawrth 1999, dechreuodd NATO ymgyrch fomio yn Iwgoslafia o'r enw Ymgyrch Grym Cynghreiriol. Gwrthwynebodd Rwsia ymyrraeth gan NATO, yn rhannol oherwydd ei chysylltiadau hanesyddol â'i chyd-genedl Slafaidd Serbia, ond hefyd oherwydd pryderon dros weithredoedd gan NATO y tu allan i'w gororau.[2] O ganlyniad i Ymgyrch Grym Cynghreiriol, gohiriodd Rwsia ei gyfranogaeth yng Nghyd-Gyngor Parhaol NATO–Rwsia a'r Bartneriaeth dros Heddwch. Bwriad cychwynnol Rwsia oedd i danseilio ymyrraeth NATO, ond yn y bôn cynorthwyodd y gynghrair wrth geisio cael datrysiad diplomyddol i'r gwrthdaro. Wedi diwedd y rhyfel, bu anghydfod ym Maes Awyr Pristina, prifddinas Cosofo, rhwng lluoedd NATO a Rwsia, oedd yn isafbwynt arall yn eu cysylltiadau.
Cyngor NATO–Rwsia
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd Cyngor NATO–Rwsia yn 2002.
Ehangu NATO
[golygu | golygu cod]- Gweler hefyd: Ehangu NATO.
Un o'r prif achosion dros densiynau rhwng NATO a Rwsia yw'r anghydfod dros ehangu NATO i gynnwys gwladwriaethau yn Nwyrain Ewrop a'r Cawcasws, yn enwedig yr Wcrain a Georgia. Mae Rwsia yn ystyried y gwledydd hyn yn rhan o'i maes dylanwad, "y tramor cyfagos".
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Medcalf, J. NATO: A Beginner’s Guide (Rhydychen, Oneworld, 2005).
- Smith, M. A. Russia and NATO since 1991 (Llundain, Routledge, 2006).
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Norris, J. Collision Course: NATO, Russia, and Kosovo (Westport, CT, Praeger, 2005).
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) (Rwseg) (Ffrangeg) Cyngor NATO-Rwsia Archifwyd 2009-02-08 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) (Rwseg) Cenhadaeth Barhaol Rwsia i NATO Archifwyd 2019-04-07 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) (Rwseg) (Ffrangeg) (Wcreineg) Cysylltiadau NATO-Rwsia ar wefan NATO
- (Saesneg) NATO-Russia.org Archifwyd 2011-07-27 yn y Peiriant Wayback