Ewrocomiwnyddiaeth

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Ffurf ar gomiwnyddiaeth yw Ewrocomiwnyddiaeth[1] a oedd yn boblogaidd ymhlith pleidiau comiwnyddol Ewrop yn niwedd y Rhyfel Oer. Diffinir gan annibyniaeth oddi ar athrawiaeth Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd, yr hyn a elwir Marcsiaeth–Leniniaeth. Er iddi fodoli ond am gyfnod byr fel ysgol feddwl Farcsaidd gydlynol,[2] cafodd yr agwedd gyffredin o annibyniaeth ar lywodraeth yr Undeb Sofietaidd ddylanwad trawsnewidiol ar y mudiad comiwnyddol yn Ewrop.

Datblygodd dueddiadau annibynnol, ac yn aml gwrth-Sofietaidd, ym mudiad adain-chwith Ewrop yn y 1930au. Yn ystod y ddeng mlynedd cyn yr Ail Ryfel Byd, lledaenodd ffryntiau poblogaidd ar draws Ewrop, gan gynnwys y Front populaire yn Ffrainc, gan arddel polisïau sosialaidd oedd yn wahanol i'r rhaglen Sofietaidd. Wedi'r rhyfel, anogwyd rhagor o wyro oddi ar arweiniad yr Undeb Sofietaidd gan lywodraeth Josip Broz Tito yn Iwgoslafia. O ganlyniad i droseddau Joseff Stalin a'i griw, ac ymyriadau gorthrymus gan luoedd Sofietaidd mewn gwledydd eraill y Bloc Dwyreiniol, yn enwedig yr ymatebion i Chwyldro Hwngari (1956) a Gwanwyn Prâg (1968), trodd nifer o gomiwnyddion Gorllewin Ewrop eu cefnau ar y Cremlin.

Santiago Carrillo, un o'r rhai a boblogeiddiodd yr enw Ewrocomiwnyddiaeth.

Bathwyd yr enw Ewrocomiwnyddiaeth yng nghanol y 1970au, a daeth yn boblogaidd yn sgil cyhoeddi'r llyfr Eurocomunismo y Estado (1977) gan Santiago Carrillo, arweinydd Plaid Gomiwnyddol Sbaen. Datblygodd mudiad real o gomiwnyddion yng Ngorllewin Ewrop oedd yn gwrthod ddarostwng i arweinyddiaeth yr athrawiaeth Sofietaidd a'r syniad o gomiwnyddiaeth fyd unffurf a arddelid gan y Cremlin. Dadleuasant dros lunio polisïau pob plaid gomiwnyddol genedlaethol yn unigol ar sail traddodiadau ac anghenion y bobl yn y wlad berthnasol. Mewn ambell gwlad, hyrwyddwyd Ewrocomiwnyddiaeth ar yr un pryd i'r mudiad comiwnyddol ddirywio. Er enghraifft, gostyngodd cefnogaeth Plaid Gomiwnyddol Ffrainc yn sylweddol yn niwedd y 1970au, er i'r arweinydd Georges Marchais ymhel â syniadau Ewrocomiwnyddiaeth.[3] Nodweddid mudiad deallusol Ewrocomiwnyddiaeth gan feirniadaeth o fodelau'r Undeb Sofietaidd, bydolwg luosogaethol ar Farcsiaeth, hawliau dynol a sifil, a'r broses seneddol.[2] Yn achos Plaid Gomiwnyddol yr Eidal, ymdebygodd polisïau ac hynt yr Ewrocomiwnyddion at y mudiad llafur a democratiaeth gymdeithasol.

Yn niwedd y 1980au, dechreuodd arweinydd yr Undeb Sofietaidd ei hun, Mikhail Gorbachev, annog pleidiau comiwnyddol y byd i ddatblygu'n annibynnol ar y blaid Sofietaidd. Yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd ar ddechrau'r 1990au, diflannodd yr angen i wahaniaethu rhwng yr ideoleg Sofietaidd ac athrawiaethau pleidiau comiwnyddol eraill. Mabwysiadwyd agweddau democrataidd gan bleidiau comiwnyddol Dwyrain Ewrop, ac erbyn yr 21g yr hyn a elwid gynt yn Ewrocomiwnyddiaeth oedd y ffurf gyffredin ar gomiwnyddiaeth ar draws Ewrop.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Geiriadur yr Academi, "Eurocommunism".
  2. 2.0 2.1 Elliott Johnson, David Walker, a Daniel Gray, Historical Dictionary of Marxism ail argraffiad (Llundain: Rowman & Littlefield, 2014), tt. 143–44.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Eurocommunism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Gorffennaf 2019.