Juche

Oddi ar Wicipedia
Ffagl ar ben Tŵr Juche yn Pyongyang.

Ideoleg swyddogol Gogledd Corea yw Juche (Coreeg: 주체; "ymddibyniaeth" neu "hunangynhaliaeth"). Yn ôl y llywodraeth, Juche yw "cyfraniad gwreiddiol, gwych a chwyldroadol at feddwl cenedlaethol a rhyngwladol" gan Kim Il-sung, Arweinydd Tragwyddol Gogledd Corea.[1] Dywed yr ideoleg hon taw "dyn yw meistr ei dynged",[2] bydd pobl Gogledd Corea yn "feistri'r chwyldro a'r adeiladu", a thrwy hunangynhaliaeth a chryfder bydd y genedl yn cyrraedd gwir sosialaeth.[2]

Datblygodd Kim Il-sung (1912–1994) yr ideoleg, yn gyntaf fel ffurf ar Farcsiaeth–Leniniaeth nes iddi droi'n nodweddiadol "Goreaidd",[1] tra'n ymgorffori syniadau materoliaeth hanesyddol a phwysleisio'r unigolyn, y genedl-wladwriaeth a sofraniaeth.[1] Mabwysiadwyd Juche fel cyfres o egwyddorion polisi gan lywodraeth Gogledd Corea ers y 1950au. Honna'r llywodraeth bod Juche yn modd o yrru'r genedl tuag at "jaju" (annibyniaeth),[1] trwy adeiladau'r "jarip" (economi genedlaethol) a phwysleisio "jawi" (hunanamddiffyn), a sefydlu'r drefn sosialaidd.[1]

Beirniadir Juche gan nifer o ysgolheigion a sylwebyddion gan fod y llywodraeth yn ei defnyddio i gynnal y drefn dotalitaraidd[3] ac i gyfiawnhau ynysiaeth y wlad a gormes y bobl yng Ngogledd Corea.[3] Mae rhai wedi disgrifio Juche yn ffurf ar genedlaetholdeb ethnig Coreaidd, sydd yn addoli'r teulu Kim fel iachawdwyr "yr Hil Goreaidd" ac sydd yn gosod seiliau i'w cwlt personoliaeth.[1][3][4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 Paul French (2014). North Korea: State of Paranoia. Zed Books. ISBN 978-1-78032-947-5.
  2. 2.0 2.1 Juche Idea: Answers to Hundred Questions. Pyongyang: Foreign Languages Publishing House. 2014.
  3. 3.0 3.1 3.2 Victor Cha (2009). The Impossible State: North Korea Past and Future. Vintage Books.
  4. Kim Jong Il: The Great Man. Pyongyang: Foreign Languages Publishing House. 2012.