Gwrthryfel 1953 yn Nwyrain yr Almaen
Jump to navigation
Jump to search
Dechreuodd gwrthryfel 1953 yn Nwyrain yr Almaen gyda streic yn Nwyrain Berlin gan adeiladwyr ar 16 Mehefin. Trodd yn wrthryfel eang yn erbyn llywodraeth Stalinaidd Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen ar 17 Mehefin. Cafodd y gwrthryfel yn Nwyrain Berlin ei lethu'n dreisgar gan danciau Grŵp y Lluoedd Sofietaidd yn yr Almaen a'r Volkspolizei. Er ymyrraeth lluoedd yr Undeb Sofietaidd, roedd yn anodd i'r awdurdodau atal y streiciau a'r protestiadau. Hyd yn oed wedi'r 17 Mehefin, bu gwrthdystiadau mewn mwy na 500 o drefi a phentrefi.