Chwiliedydd gofod

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Chwiliedydd o 1974: Pioneer H, yn cael ei arddangos mewn amgueddfa

Cerbyd gofod sy'n gadael cylchdro'r Ddaear yw chwiliedydd gofod gan archwilio'r gofod.[1] Mae sawl gwahanol fath o daith yn bosibl: archwilio lleuadau, asteroidau, comedau, planedau ein Haul, neu blanedau eraill a gofod rhyngalaethol. Yn wahanol i'r llong-ofod arferol nid oes pobl ar ei bwrdd ond bydd yn cynnwys synhwyryddion a weithiau elfennau robotaidd ar gyfer archwilio planedau a cyrff eraill yn y gofod. Un o'r chwiliedyddon mwyaf nodedig yw Juno.

Mae llawer o'r asiantaethau gofod wedi gyrru chwiliedyddion i'r gofod, gyda sawl gwahanol nod iddynt; mae'r rhain yn cynnwys: Rwsia, Iwcrain, UDA, Ewrop, Japan, Tsieina, ac India. Yn 2016 roedd tuag un-deg-pump o deithiau yn y gofod, a phob un ar y trywydd cywir.[2]

Cyn gynted ag y mae chwiliedydd wedi gadael grym disgyrchiant y Ddaear, bydd ei daflwybr (trajectory) fel arfer yn ei gymryd o gwmpas yr Haul, sy'n ddigon tebyg i cylchdro'r Ddaear. Er mwyn cyrraedd ei darged (e.e. planed arall) mae'n bosibl y bydd angen i'r chwiliedydd gymryd cryn dipyn mwy o amser yn ei gylchdro (orbit). I gyrraedd planed arall, y dull cyntaf o'i gyrraedd yw 'dull trosglwyddiad cylchdro Hohmann'. Wedi dweud hyn, gall dulliau eraill foi yn llawer mwy effeithiol, ond yn fwy cymhleth e.e. slingshot o gwmpas màs gyda disgyrchiant; mae'r dull yma fel arfer yn arbed llawer o danwydd ond yn cymeryd mwy o amser.

Pioneer 10 oedd y chwiliedydd gofod cyntaf i ymweld â Iau. Ym 1976 anfonodd NASA ddau chwiliedydd gofod, sef Viking 1 a Viking 2, i'r blaned. Glaniodd y ddau ar y blaned, a chafodd arbrofion eu gwneud ar y pridd i chwilio am ficro-organebau. Ymwelodd y chwiliedydd gofod Mariner 10 â Mercher yn 1974, gan dynnu lluniau ac gwneud arbrofion gwyddonol. Mae'r blaned yn cael ei hastudio ar hyn o bryd gan chwiliedydd NASA o'r enw MESSENGER. Lawnsiwyd Voyager 1 gan NASA o Ganolfan Ofod, Kennedy, Fflorida ar 5 Medi 1977 ar berwyl i hedfan heibio'r planedau Iau a Sadwrn. Lawnsiwyd New Horizons gan NASA o'r orsaf Cape Canaveral, Fflorida ar 19 Ionawr, 2006 ar berwyl i hedfan heibio Plwton a'i loerennau Charon, Nix, Hydra, Kerberos a Styx.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. National Geographic Society. "Space Probes". National Geographic Education. http://education.nationalgeographic.com/education/media/space-probes/.
  2. planetary.org; adalwyd Rhagfyr 2016.