Baner NATO

Oddi ar Wicipedia
Baner NATO
Enghraifft o'r canlynolbaner Edit this on Wikidata
Lliw/iaugwyn, dark blue Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu14 Hydref 1953 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner NATO

Maes glas tywyll gydag arwyddlun rhosyn cwmpawd yn ei ganol â phedair llinell wen yn rheiddio ohono yw baner NATO. Seren bedair-pwynt gwyn a glas tywyll dros gylch gwyn yw'r arwyddlun. Dyluniwyd gan aelod o Staff Rhyngwladol y sefydliad, a mabwysiadwyd gan Gyngor Gogledd yr Iwerydd ar 14 Hydref 1953. Mae gan y faner y dimensiynau canlynol:

  • Hyd: 400
  • Lled: 300
  • Seren: 150
  • Diamedr y cylch y tu ôl i'r seren: 115
  • Gofod rhwng y seren a'r llinellau gwyn: 10
  • Gofod rhwng ymyl y faner a'r llinellau gwyn: 30

Ffynhonnell[golygu | golygu cod]