Athrawiaeth Paasikivi–Kekkonen

Oddi ar Wicipedia
Athrawiaeth Paasikivi–Kekkonen
Enghraifft o'r canlynolathrawiaeth polisi tramor Edit this on Wikidata
Y Prif Weinidog Urho Kekkonen (dde) a'r Arlywydd Juho Kusti Paasikivi ym 1955.

Athrawiaeth polisi tramor o niwtraliaeth yn y Rhyfel Oer a arddelid gan Juho Kusti Paasikivi, Arlywydd y Ffindir o 1946 i 1956, a'i olynydd Urho Kekkonen hyd at 1982, oedd Athrawiaeth Paasikivi–Kekkonen. Nod yr athrawiaeth oedd i sicrhau annibyniaeth sofran a diogelwch cenedlaethol y Ffindir o ystyried lleoliad y wlad ar y ffin â'r Undeb Sofietaidd, a fe'i amlygid ar ffurf polisi tramor tra-amhleidiol. Yn ôl ei lladmeryddion, yr oedd y niwtraliaeth weithredol hon yn angenrheidiol i wladwriaeth y Ffindir oroesi wrth ystyried sefyllfa ddaearwleidyddol fregus y wlad, rhwng gwledydd NATO i'r gorllewin a Chytundeb Warsaw i'r dwyrain. Mewn ffaith, daeth y Ffindir dan faes dylanwad yr Undeb Sofietaidd, er iddi gadw ei system ddemocrataidd amlbleidiol ac economi'r fasnach. Gellir ei ystyried felly yn bolisi realaidd a oedd yn cydnabod gwirionedd grym Sofietaidd. Cyhuddwyd y polisi gan ei wrthwynebwyr o fod yn ffurf ar ddyhuddo, gan wneud y Ffindir yn rhy cyfeillgar, os nad yn daeogaidd, i lywodraeth yr Undeb Sofietaidd.

Cyd-destun[golygu | golygu cod]

Cadeirydd Presidiwm y Goruwch Sofiet, Marshal Kliment Voroshilov, Ysgrifennydd Cyffredinnol Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd (Arweinydd yr Undeb Sofietaidd, Nikita Khrushchev, ac Arlywydd y Ffindir, Urho Kekkonen yn cwrdd ym Mosgo ym mis Tachwedd 1960

Wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd — pan oedd y Ffiniaid a'r Sofietiaid yn brwydro'n erbyn ei gilydd yn Rhyfel y Gaeaf (1939–40) a Rhyfel y Parhad (1941–44)—arwyddwyd cytundeb heddwch rhwng y ddwy wlad ym Mharis yn Chwefror 1947. Fel un o gyn-bwerau'r Echel, yr oedd safle'r Ffindir yn ddarostyngedig i'r Cynghreiriaid, Yn ôl telerau'r cytundeb, gorfodwyd i'r Ffindir gyfyngu ar faint ei lluoedd arfog, dalu iawndaliadau rhyfel am bum mlynedd, ac ildio sawl llain o'i thiriogaeth. Yn Ebrill 1948, arwyddwyd Cytundeb Cyfeillgarwch, Cydweithrediad, a Chydgymorth ym Moscfa, gan osod sail i gysylltiadau rhwng y Ffindir a'r Undeb Sofietaidd yn oes newydd y Rhyfel Oer. Yn ôl y cytundeb hwn, cydnabuwyd annibyniaeth y Ffindir rhag ymyrraeth wleidyddol, a pharchwyd ei phenderfyniad i beidio ag ymlynu â'r Bloc Dwyreiniol, ond fe'i atalwyd hefyd rhag ymuno â chynghrair milwrol NATO, a byddai'r Ffindir dan orfod i wrthsefyll unrhyw ymosodiad gan Weriniaeth Ffederal yr Almaen (Gorllewin yr Almaen) a'i chynghreiriaid (hynny yw, NATO) ar ei thiriogaeth ei hun, gan gynnwys goresgyniad gyda'r nod o gychwyn rhyfel yn erbyn yr Undeb Sofietaidd.

Hanfodion Athrawiaeth Paasikivi[golygu | golygu cod]

Yr oedd athrawiaeth Paasikivi yn seiliedig ar bedwar rhagosodiad realaidd, a ellir eu cysylltu ag hen agwedd yr Hen Blaid Ffinnaidd yn oes Uchel Ddugiaeth y Ffindir ac Ymerodraeth Rwsia: yn gyntaf, yn sgil cwymp yr Almaen Natsïaidd, yr Undeb Sofietaidd oedd yr unig rym milwrol mawr yn y Môr Baltig; yn ail, yr oedd gan y Sofietiaid ddiddordebau amddiffynnol yn yr ardal hon, a rhaid cydnabod nad oeddynt am oddef unrhyw fygythiad i'w diogelwch cenedlaethol ar hyd ei ffin â'r Ffindir, gan gynnwys y posibilrwydd o wledydd y Gorllewin yn defnyddio'r wlad fel "coridor" i oresgyn gogledd-orllewin Rwsia; yn drydydd, ffafriodd Paasikivi bolisi ystwyth a phragmataidd wrth gysylltu â'r llywodraeth Sofietaidd, yn hytrach na deddfoldeb neu gyfansoddiadaeth; ac yn olaf, dyrchafwyd polisi tramor yn uwch na gwleidyddiaeth fewnol y Ffindir.[1] Yn y 1950au, ymunodd y Ffindir â'r Cyngor Nordig a'r Cenhedloedd Unedig. O safbwynt Paasikivi, cyfiawnhad o'i athrawiaeth oedd y cyfnod hwn, gan nad oedd modd gwella cysylltiadau'r Ffindir gyda'r Gorllewin os nad oedd cysylltiadau gyda'r Undeb Sofietaidd yn gyfeillgar i ddechrau.[2]

Olynwyd Paasikivi yn yr arlywyddiaeth ym 1956 gan ei brif weinidog, Kekkonen. Aeth ati i gryfhau athrawiaeth ei ragflaenydd, gan ildio i ddylanwad yr Undeb Sofietaidd ar dri achos pwysig: argyfwng "Rhew'r Nos" ym 1958, a arweiniodd at gwymp llywodraeth y Prif Weinidog Karl-August Fagerholm; Argyfwng y Nodyn ym 1961; a phenderfyniad yr Undeb Sofietaidd yn niwedd y 1960au i beidio â chydnabod niwtraliaeth y Ffindir ac i gefnogi mudiadau comiwnyddol yn y wlad.[3]

Crynhoi[golygu | golygu cod]

Wrth sgwrsio â Kekkonen yn gynnar ym mis Rhagfyr 1956 yn Ysbyty Salus, bythefnos cyn ei farwolaeth, roedd fel petai cysgod o gymeriad Machiavellian wedi gwneud ymddangosiad byr yn ei wely ysbyty. Dywedodd Paasikivi wrth ei olynydd: “Rhaid i ni reoli ein polisïau fel ein bod yn gallu elwa o ddirywiad mewnol Rwsia ond byth i golli pan fydd yn tyfu’n gryfach.” Deallwyd hyn gan y Gorllewin a'r Sofietiaid. Bu’r cyn-Weinidog Tramor Molotov yn hel atgofion yn y 1970au am ei bolisi ar ôl y rhyfel tuag at y Ffindir: “O mor dyner oedden ni gyda’r Ffindir! Roeddem yn ddoeth peidio â'u goresgyn. Byddai wedi gadael clwyf parhaol… Mae pobl yn y Ffindir yn ystyfnig, yn ystyfnig iawn. Byddai hyd yn oed mwyafrif bychan o’r Ffindir wedi bod yn beryglus.[…] Ni lwyddwyd i ddemocrateiddio’r Ffindir mwy nag Awstria.”[4]

Ffindirio[golygu | golygu cod]

Yn y 1960au, ymddangosodd y term "Ffindirio" ("Finlandize")[5] yn y Gorllewin i ddisgrifio'r broses o bŵer mawr yn gorchfygu gwlad gyfagos o ran polisi tramor, tra'n caniatáu i'r wlad honno gadw ei hannibyniaeth mewn enw, a pheidio ar y cyfan i ymyrryd â materion mewnwladol. Defnyddiwyd y term yn enwedig yng Ngorllewin yr Almaen i ladd ar Ostpolitik, sef ymdrechion y Canghellor Willy Brandt i normaleiddio cysylltiadau gyda'r Weriniaeth Ddemocrataidd (Dwyrain yr Almaen).

Diweddglo[golygu | golygu cod]

Gellid dadlau i Athrawiaeth Paasikivi-Kekkonen a Ffindirio ddod i ben gyda Rhyfel Rwsia ar Wcrán a ddechreuodd yn Chwefror 2022. Bu i'r Rhyfel gan Rwsia yn erbyn Wcráin niwtral ddangos perygl dibynnu ar ewyllus da Rwsia. Achosodd y Rhyfel i ddosbarth rheoli'r Ffindir ail-ystyried yn ddwys holl ganllawiau ei pholisi tramor gan ystyried ymuno â NATO. Ar 4 Ebrill 2023 bu i'r Ffindir ymuno gyda NATO gan, i bob pwrpas, gau pen y mwdl ar Athrawiaeth Paasikivi-Kekkonen.[6]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Jason Lavery, The History of Finland (Westport, Connecticut: Greenwood Press, 2006), tt. 133–34.
  2. Lavery, The History of Finland (2006), t. 138.
  3. Lavery, The History of Finland (2006), tt. 139–40.
  4. "Paasikivi's Eastern foreign policy relied on the West". Gwefan J. K. Paasikivi. 2020.
  5. Geiriadur yr Academi, "Finlandize".
  6. "Nato's border with Russia doubles as Finland joins alliance". BBC News. 4 Ebrill 2023.