Willy Brandt

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Willy Brandt
Bundesarchiv B 145 Bild-F057884-0009, Willy Brandt.jpg
Ynganiad De-Herbert Ernst Karl Frahm.oga Edit this on Wikidata
Ganwyd Herbert Ernst Karl Frahm Edit this on Wikidata
18 Rhagfyr 1913 Edit this on Wikidata
Lübeck Edit this on Wikidata
Bu farw 8 Hydref 1992 Edit this on Wikidata (78 oed)
Achos: canser colorectaidd Edit this on Wikidata
Unkel Edit this on Wikidata
Galwedigaeth newyddiadurwr, gwleidydd, awdur ffeithiol Edit this on Wikidata
Swydd Federal Chancellor of Germany, Governing Mayor of Berlin, Bundesminister, Aelod Senedd Ewrop, Aelod o Bundestag yr Almaeneg, Member of the Abgeordnetenhaus of Berlin, Vice-Chancellor of Germany, Federal Minister for Foreign Affairs, Llywydd Bundesrat yr Almaen, President of the Abgeordnetenhaus of Berlin, chairman of the Social Democratic Party Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid Wleidyddol Socialist Workers' Party of Germany, Plaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen, Plaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen Edit this on Wikidata
Mam Martha Frahm Edit this on Wikidata
Priod Brigitte Seebacher, Rut Brandt, Anna Carlotta Thorkildsen Edit this on Wikidata
Plant Peter Brandt, Lars Brandt, Matthias Brandt, Ninja Frahm Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gwobr Heddwch Nobel, Marchog Croes Uwch Urdd Sant Olav, Addurn er Anrhydedd am Wasanaeth i Weriniaeth Awstria, Marchog Uwch Groes Urdd yr Hebog, Uwch Groes Urdd y Orange-Nassau, Uwch Groes Dannebrog, Urdd Teilyngdod Melitensi, Time Person of the Year, Uwch Groes Urdd y Goron, Order of the Rising Sun, 1st class, Grand Cross of the Order of Vasa, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, B'nai B'rith, Albert Einstein Peace Prize, Urdd yr Haul, Uwch Groes Dosbarth 1af Urdd Teilyngdod Gwladwriaeth Ffederal yr Almaen, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Dinesydd anrhydeddus Berlin, Grand cross of the Order of the White Lion, Gwobr Rhyddid, Urdd Vasa, Anniversary Medal at the occasion of the 25th anniversary of the founding of the Iranian Empire, dinasyddiaeth anrhydeddus Edit this on Wikidata
Llofnod
Willy Brandt signature.svg

Gwleidydd Almaenig oedd Willy Brandt, enw genedigol Herbert Ernst Karl Frahm (18 Rhagfyr 19138 Hydref 1992). Roedd yn Ganghellor Gorllewin yr Almaen o 1969 hyd 1974.

Ganed ef yn Lübeck yn fab i Martha Frahm; ni chafodd byth wybod pwy oedd ei dad. Ymunodd â phlaid ganol-chwith y SPD ym 1930, ond y flwyddyn wedyn ymunodd â phlaid fechan ymhellach ar y chwith, y Sozialistische Arbeiterpartei. Wedi i'r Natsïaid ddod i rym, ffôdd i Norwy i drefnu gwrthwynebiad iddynt. Un o'i ffugenwau o'r cyfnod hwn oedd "Willy Brandt". Pan feddiannwyd Norwy gan yr Almaen, symudodd i Sweden.

Etholwyd ef i'r Senedd ym 1949 fel aelod o'r SPD, ac yn faer Gorllewin Berlin ym 1957. Ef oedd y maer pan adeiladwyd Mur Berlin ym 1961.

Bu'n weinidog tramor, cyn dod yn Ganghellor yn 1969. Nodweddid ei gyfnod fel canghellor gan ei ymgais i ddod i delerau â'r Undeb Sofietaidd a gwledydd Cytundeb Warsaw. Ar 6 Mai 1974, ymddiswyddodd yn annisgwyl. Un rheswm oedd ei fod wedi cael gwybod fod gwybodaeth am ei fywyd personol wedi dod i feddiant llywodraeth Dwyrain yr Almaen.

Dyfarnwyd Gwobr Heddwch Nobel iddo ym 1971.

Rhagflaenydd:
Kurt Georg Kiesinger
Canghellor yr Almaen
19691974
Olynydd:
Helmut Schmidt