Embargo

Oddi ar Wicipedia

Gweithred gan wladwriaeth neu gyfundrefn arall i rwystro ei phobl, yn rhannol neu'n gyfangwbl, rhag cynnal cysylltiadau economaidd ayyb â gwlad neu ranbarth arall yw embargo.

Mae yna wahaniaeth rhwng embargo a gwarchae (blockade). Dan gyfraith ryngwladol mae'r olaf yn weithred rhyfel yn erbyn gwlad arall tra bod embargo yn cael ei osod gan awdurdodau un wlad (neu grŵp o wledydd) i rwystro eu trigolion rhag masnachu â gwlad arall neu fynd ag unrhyw beth yno. Gall pwrpas embargo amrywio. Weithiau mae'n achos o wahardd masnach yn gyffredinol ond gallai hefyd fod yn embargo cyfyngedig, e.e. masnach arfau neu olew, a hynny er mwyn rhoi pwysau ar wlad dan yr embargo. Mae'r gwahaniaeth yn gallu bod yn denau. Gall embargo cyffredinol (fel yr un ar Irac yn y cyfnod a arweiniodd at Ryfel Irac neu'r embargo Israelaidd ar Lain Gaza) gael yr un effaith yn union â gwarchae (blockade).

Accountancy template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Globe stub.svg Eginyn erthygl sydd uchod am gysylltiadau rhyngwladol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.