Charles de Gaulle

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arlywydd Charles de Gaulle
Charles de Gaulle

Charles de Gaulle


Cyfnod yn y swydd
8 Ionawr 1959 – 28 Ebrill 1969
Prif Weinidog Michel Debré
Georges Pompidou
Maurice Couve de Murville
Rhagflaenydd René Coty
Olynydd Georges Pompidou

Geni 22 Tachwedd 1890
Lille
Marw 9 Tachwedd 1970
Colombey-les-Deux-Églises
Plaid wleidyddol UDR
Priod Yvonne de Gaulle

Am Charles de Gaulle y llenor ewch i Charles de Gaulle

Gwleidydd a chadfridog o Ffrainc oedd Charles André Joseph Marie de Gaulle (22 Tachwedd, 1890 - 9 Tachwedd, 1970). Fe'i ganwyd yn Lille. Fe'i ystyrir yn un o ffigurau gwleidyddol pwysicaf yr 20g.

Gyrfa gynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn swyddog galluog a daeth i'r amlwg yn y 1930au pan gyhoeddodd ei lyfr Vers l'armeé de métier (1934), lle mae'n dadlau dros greu byddin fodern broffesiynol. Cafodd ei ddyrchafu'n gadfridog yn 1940 pan dorrodd yr Ail Ryfel Byd allan. Roedd yn aelod o gabinet Paul Reynaud ond gwrthwynebai'r cytundeb armistis a gadwai Ffrainc allan o'r rhyfel.

Yr Ail Ryfel Byd[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn dilyn cwymp Ffrainc i fyddin yr Almaen yn yr Ail Ryfel Byd, bu'n cynnal o Loegr lywodraeth alltud o'r enw Ffrainc Rydd. Yn y cyfnod anodd hwnnw daeth de Gaulle i fod yn symbol o wladgarwch i nifer o Ffrancod, gan ysgogi'r résistance gyda'i apêl ar 18 Mehefin 1940. Ond roedd tensiynau yn bodoli eisoes ym mherthynas de Gaulle â llywodraethau Prydain Fawr ac America. Teimlai de Gaulle fod y Cynghreiriad yn ei ddefnyddio. Yn 1943 fe'i penodwyd yn llywydd y Pwyllgor dros Ryddhad Cenedlaethol, a oedd newydd ei sefydlu, yn Algiers. Ar ddiwedd y rhyfel ffurfiodd lywodraeth dros dro; ef oedd yr arlywydd o 1945 hyd ei ymddeoliad ohono yn 1946.

Y cyfnod ôl-ryfel[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1947 sefydlodd y Rassemblement du Peuple Français ond nid oedd yn llwyddianus iawn ac fe'i diddymwyd ganddo ym 1953. Ymddeolodd o wleidyddiaeth am gyfnod.

Arlywydd y Bumed Weriniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Algeria[golygu | golygu cod y dudalen]

De Gaulle yn datgan "Je vous ai compris!" yn Algiers, 4 Mehefin 1958

Deuddeng mlynedd wedi iddo ymddiswyddo o arwain Llywodraeth Ddros Dro Ffrainc, dychwelodd Charles de Gaulle i arwain ei wlad ar ôl argyfwng Mai 1958, a achoswyd gan analluogrwydd y Drydedd Weriniaeth i ddatrys Rhyfel Algeria a ddechreuodd ym 1954. Croesawyd dychweliad de Gaulle gan Fyddin Ffrainc a'r pieds-noirs, setlwyr Ewropeaidd Algeria, oedd yn disgwyl iddo rhoi ei gefnogaeth dros achos Algeria Ffrengig. Ar 4 Mehefin 1958 ymwelodd yr arlywydd newydd ag Algeria ac fe'i groesawyd fel achubwr, gan ymddangos o flaen torfeydd gorawenus a datgan "Je vous ai compris!" ("Yr wyf wedi eich deall!").

Ond yn fuan cafodd y fyddin a'r pieds-noirs eu dadrithio gan eu harweinydd newydd. Dod â therfyn i'r rhyfel oedd blaenoriaeth de Gaulle yn ystod pedair mlynedd gyntaf ei arlywyddiaeth, ac wynebodd cyfyngiadau sylweddol o bob ochr wrth geisio cyflawni'r dasg hon. Yr oedd gorchfygiad Brwydr Dien Bien Phu yn ffres yng nghof Byddin Ffrainc, ond nid oedd cadfridogion nac milwyr y rhengoedd isaf yn dymuno cilio rhag trefedigaeth Ffrengig eto. Roedd y pieds-noirs yn dymuno cadw eu statws breintiedig yn Algeria dros y boblogaeth frodorol. Yn ogystal roedd nifer o gefnogwyr gwleidyddol de Gaulle, megis Michel Debré, Prif Weinidog rhwng 1959 a 1962, o blaid gadw Algeria yn rhan o Ffrainc. Ac agwedd y Ffrynt Rhyddid Cenedlaethol (FLN) oedd i barháu i ryfela nes yr oedd annibyniaeth i weriniaeth Algeriaidd brodorol.

Er mwyn trechu'r cyfyngiadau hyn, defnyddiodd de Gaulle nid yn unig ei rymoedd arlywyddol ond hefydd ei fri, dylanwad, a chymeriad personol.[1] Gwnaeth defnydd o rethreg wladgarol ar deledu. Ar 16 Medi 1959, darlledwyd araith gan de Gaulle o Balas Élysée. Ynddi, addawodd yr arlywydd i sicrháu hunan-benderfyniad ar gyfer holl boblogaeth Algeria o fewn pedair mlynedd i gadoediad gan bob ochr yn y gwrthdaro. Rhestrodd tri dewis am ddyfodol Algeria: annibyniaeth ("ymwahaniad"), integreiddiad ("Ffranceiddio"), ac "uniad agos â Ffrainc". Ffafriodd de Gaulle y drydydd dewis, a gyda'r araith hon fe siapiodd y ddadl dros ddyfodol Algeria. Llwyddodd i greu tir canol rhwng dymuniadau'r setlwyr dros integreiddio a dymuniadau'r brodorion dros annibyniaeth.

Nid oedd ymateb swyddogion y fyddin yn Algeria i'r araith yn ffafriol, a dechreuant ymochri ag elfennau eithafol yng nghymuned y pieds-noirs gan alw am ddymchweliad de Gaulle. Ar 24 Ionawr 1960 cafodd streic gyffredinol ei galw yn Algiers, a dechreuodd nifer o'r fyddin gydymdeimlo â'r pieds-noirs yn ystod gwrthryfel Wythnos yr Atalgloddiau. Ar 29 Ionawr rhoddodd de Gaulle araith i amddiffyn cysyniad hunan-benderfyniad gan apelio at y fyddin a'r pieds-noirs. Roedd ganddi effaith mawr ac ildiodd arweinwyr y gwrthryfel ar 31 Ionawr.

Wrth i realiti annibyniaeth ddod yn agosach, ar 22 Ebrill 1961 arweiniodd y Cadfridogion Challe, Salan, Jouhaud, a Zeller putsch yn erbyn de Gaulle gan gipio Algiers ac arestio cynrychiolwyr llywodraeth Paris. Ar 23 Ebrill condemiodd de Gaulle y putsch fel "antur ddwl ac atgas" a galwodd ar luoedd Ffrengig i aros yn ffyddlon i'w arlywyddiaeth. Methodd y putsch yn sydyn a chynyddodd poblogrwydd yr arlywydd. Rhoddodd hyn gryfder i de Gaulle yn nhrafodaethau Évian ym Mai 1961, ond oherwydd ei fynegiadau cyhoeddus niferus o'i ddymuniad i ddod â therfyn i'r rhyfel mor gynted ag oedd yn bosib, bu rhaid iddo wneud nifer o gonsesiynau i'r FLN. Ar 8 Ebrill 1962, cadarnhawyd cytundebau Évian gan 90% o bleidleiswyr yn Ffrainc fetropolitanaidd, ac ym 1962 enillodd Algeria ei hannibyniaeth.

Diwrnod y Siacal[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym Medi 1961 ceisiodd y mudiad terfysgol asgell dde, yr Organisation de l'Armée secrète (OAS), ei lofruddio am ei fod yn barod i ildio annibyniaeth ar Ffrainc i Algeria. Seiliodd y nofelydd Frederick Forsyth ei nofel Day of the Jackal ar y digwyddiad a chafwyd ffilm enwog o'r un enw yn 1973 yn ogystal.

Ar lwyfan y byd[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi i Algeria gael ei hannibyniaeth yn 1962, canolbwyntiodd de Gaulle ar safle Ffrainc ar y llwyfan ryngwladol. Roedd Ffrainc wedi colli nifer o'i drefedigaethau, neu ar fin eu colli, a theimlai fod Prydain ac America yn ceisio gwthio'r wlad o'r neilltu. Gweithiodd yn galed o blaid ei weledigaeth o Ewrop o wledydd annibynnol ond cydweithredol a fyddai'n rhydd o ddylanwad yr Unol Daleithiau. Gwrthododd lofnodi'r Cytundeb Gwahardd Profi Arfau Niwclear yn 1963 a thynnodd Ffrainc allan o NATO yn 1966. Gwrthwynebai gais Prydain i ymuno â'r EEC.

Problemau domestig[golygu | golygu cod y dudalen]

Ond wynebai densiynau cynyddol yn Ffrainc ei hun. Roedd protestiadau anferth Mai, 1968 gan fyfyrwyr a gweithwyr yn argyfwng iddo. Ymddeolodd yn 1969 yn sgîl colli refferendwm ar ddiwygiad cyfansoddiadol.

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd Charles de Gaulle Yvonne Vendroux ar 7 Ebrill 1921. Cafon nhw tri phlentyn: Philippe (ganwyd 1921), Élisabeth (1924), a briododd y Cadfridog Alain de Boissieu, ac Anne (1928–1948). Roedd gan Anne syndrom Down a bu farw'n oed 20.

Ei ddylanwad[golygu | golygu cod y dudalen]

Am flynyddoedd lawer ar ôl ei farwolaeth ym 1970 roedd ei bolisïau Gaullaidd yn ddylanwadol iawn yng ngwleidyddiaeth Ffrainc. Mae'n parhau'n ffigwr dadleuol heddiw.

Roedd ei ewythr, hefyd o'r enw Charles de Gaulle, yn fardd Llydaweg ac yn un o arloeswyr Pan-Geltigiaeth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Shennan (1993), t. 93.

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Cook, D. Charles de Gaulle: A Biography (Llundain, Secker & Warburg, 1984).
  • Crozier, B. De Gaulle: The Statesman (Llundain, Eyre Methuen, 1973).
  • De Gaulle, C. Memoirs of Hope: Renewal 1958–62, Endeavour 1962– (Llundain, Weidenfeld and Nicolson, 1971). Cyfieithwyd gan Terence Kilmartin.
  • Fenby, J. The General: Charles de Gaulle and the France He Saved (Llundain, Simon & Schuster, 2010).
  • Horne, A. A Savage War of Peace: Algeria 1954–1962 (Efrog Newydd, New York Review Books, 2006).
  • Jackson, J. Charles de Gaulle (Llundain, Cardinal, 1990).
  • Pickles, D. 'General de Gaulle and Algeria', The World Today, 17(2) (1961) pp. 49–58.
  • Schoenbrun, D. The Three Lives of Charles de Gaulle (Llundain, Hamish Hamilton, 1966).
  • Shennan, A. De Gaulle (Llundain, Longman, 1993).
  • Sulzberger, C. L. The Test: De Gaulle and Algeria (Llundain, Rupert Hart-Davis, 1962).
Rhagflaenydd:
Michel Debré
Prif Weinidog Ffrainc
1 Mehefin 19588 Ionawr 1959
Olynydd:
Michel Debré
Rhagflaenydd:
René Coty
Arlywydd Ffrainc
8 Ionawr 195928 Ebrill 1969
Olynydd:
Georges Pompidou
Rhagflaenydd:
René Coty a Ramon Iglésias i Navarri
Hanner-Tywysog Andorra
19591969
gyda Ramon Iglésias i Navarri
Olynydd:
Georges Pompidou a
Ramón Malla Call
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: