Gauliaeth

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Gaulliaeth)
Neidio i: llywio, chwilio
Croes Lorraine, a ddefnyddir weithiau i gynrychioli Gauliaeth.

Agwedd neu dueddfryd gwleidyddol Ffrengig yw Gauliaeth[1] (Ffrangeg: Gaullisme) sy'n seiliedig ar safbwyntiau a pholisïau Charles de Gaulle, arweinydd Ffrainc Rydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac Arlywydd Ffrainc rhwng 1959 a 1969.[2] Pwysleisiodd de Gaulle genedlaetholdeb Ffrengig yn wyneb meddiannaeth Ffrainc gan yr Almaen a Llywodraeth Vichy ym mlynyddoedd y rhyfel, a thra'n arlywydd fe frwydrodd i gadw Ffrainc yn bŵer mawr ar lwyfan y byd. O ran polisi economaidd, ffafriodd de Gaulle dirigisme, sef system economaidd Keynesaidd gyda rôl fawr i'w chwarae gan y llywodraeth.

Yn ôl yr hanesydd Serge Berstein, nid yw Gauliaeth yn athrawiaeth nac ychwaith yn ideoleg wleidyddol a ni ellir ei ddisgrifio'n adain chwith neu'n adain dde. Yn hytrach, ymddygiad pragmataidd wrth feddu ar rym yw'r meddylfryd hwn ac nid yw'n nacáu cyfaddawd a goddef pan fo angen. Tueddiad sy'n arbennig i Ffrainc yw Gauliaeth, ac "heb os nac onibai ffenomen wleidyddol hanfodol Ffrainc yr ugeinfed ganrif".[2] Sail y meddylfryd yw gyrfa filwrol a gwleidyddol de Gaulle, ei ddelwedd arwrol a'i awdurdod moesol gan iddo achub ei wlad ddwywaith: rhag y Natsïaidd a'r bradychwyr yn ystod y rhyfel, ac yn sgil cwymp y Bedwaredd Weriniaeth ym 1958. Pan sefydlodd de Gaulle y Bumed Weriniaeth, fe fynnodd arlywyddiaeth dra-grymus i sefydlogi'r llywodraeth, a dan ei arweiniad dilynodd Ffrainc bolisi tramor annibynnol ac heb raid ufuddhau i gynghreiriau â gwledydd eraill.[3] Gellir ystyried Gauliaeth yn ffurf ar boblyddiaeth sy'n ceisio efelychu arweinyddiaeth de Gaulle.

Ysgrifennai'r ysgolhaig Lawrence D. Kritzman taw ffurf ar wladgarwch Ffrengig yn nhraddodiad yr hanesydd Jules Michelet yw Gauliaeth. Fel arfer ymochrai'r Gaulyddion â phleidiau'r adain dde, ond hefyd yn glynu wrth werthoedd gweriniaethol y Chwyldro Ffrengig ac felly'n ymddieithrio oddi wrth neilltuoldeb ac estrongasedd y dde draddodiadol. Nod Gauliaeth oedd cadarnháu sofraniaeth Ffrainc ac undod y genedl, a thrwy hynny'n gwbl groes i'r rhwygau cymdeithasol a grewyd gan wrthdaro'r dosbarthiadau.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Geiriadur yr Academi, [Gaullism].
  2. 2.0 2.1 Serge Berstein, "Gaullism" yn The Oxford Companion to Politics of the World (ail argraffiad, gol. Joel Krieger), Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2001, tt. 307-08.
  3. (Saesneg) French wrestle with De Gaulle's legacy, BBC (15 Ebrill 2002). Adalwyd ar 27 Chwefror 2017.
  4. Lawrence D. Kritzman, The Columbia History of Twentieth-century French Thought (Columbia University Press, 2006, gol. Lawrence D. Kritzman & Brian J. Reilly), tt. 51-54.