Pragmatiaeth

Oddi ar Wicipedia

Athroniaeth sy'n dal taw canlyniadau ymarferol yw meini prawf gwybodaeth, ystyr a gwerth yw pragmatiaeth[1] neu ymarferoliaeth.[2] Dadleua'r ffurf hon ar empiriaeth taw'r canlyniad sy'n pennu ystyr, a chadarnhâd sy'n pennu gwirionedd, ac felly moddion i weithredu yw syniadau yn y bôn.

Roedd yr ysgol feddwl hon yn dominyddu athroniaeth Americanaidd ar ddechrau'r 20g. Daeth yn ddylanwadol ym meysydd polisi a gwleidyddiaeth i flaenoriaethu gweithrediad a phrofiad yn hytrach nag athrawiaeth ac egwyddorion diamod.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  pragmatiaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2016.
  2. Geiriadur yr Academi, [pragmatism].
  3. (Saesneg) pragmatism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2016.