Jules Michelet

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Jules Michelet
Jules Michelet.jpg
Ganwyd 21 Awst 1798 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Bu farw 9 Chwefror 1874 Edit this on Wikidata (75 oed)
Achos: Trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Hyères Edit this on Wikidata
Man preswyl Naoned Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Ffrainc Edit this on Wikidata
Addysg Aggregation of modern literature, licence Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Lycée Charlemagne Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Hanesydd, archifydd, Ysgrifennwr, dyddiadurwr, athro prifysgol, cyfieithydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Archives nationales
  • Collège de France
  • Collège-lycée Jacques-Decour
  • Ecole Normale Supérieure Edit this on Wikidata
Adnabyddus am Histoire de France Edit this on Wikidata
Prif ddylanwad John Locke, Jean-Antoine-Nicolas de Caritat de Condorcet, David Hume, Gottfried Wilhelm von Leibniz Edit this on Wikidata
Mudiad Rhamantiaeth Edit this on Wikidata
Tad Jean-François Furcy-Michelet Edit this on Wikidata
Priod Athénaïs Michelet, Pauline Rousseau Edit this on Wikidata
Partner Françoise Adèle Poullain-Dumesnil Edit this on Wikidata
Plant Adèle Michelet, Charles Michelet, Yves-Jean-Lazare Michelet Edit this on Wikidata
Gwobr/au Cystadleuthau Cyffredinol Edit this on Wikidata
Llofnod
Michelet signature.jpg

Hanesydd Ffrengig oedd Jules Michelet (21 Awst 17989 Chwefror 1874).[1] Ei gampweithiau ydy Histoire de France (1833–67), hanes Ffrainc mewn 19 cyfrol, a Histoire de la révolution française (1847–53), hanes y Chwyldro Ffrengig mewn saith cyfrol.

Nodweddir ei waith gan ei daliadau cenedlaetholgar, ei arddull ddramatig, a'i atgasedd tuag at yr Oesoedd Canol, yr Eglwys Gatholig, a'r frenhiniaeth. Michelet oedd yr hanesydd cyntaf i roi'r enw Renaissance ar gyfnod y Dadeni Dysg.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Jules Michelet ym Mharis ar 21 Awst 1798. Argraffwr oedd ei dad, ac roedd teulu ei fam yn hanu o gefn gwlad. Er yr oeddynt yn dlawd, yn enwedig wedi i lywodraeth Napoleon gau'r wasg, gweithiodd ei dad i ddarparu addysg i Jules.

Gyrfa academaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cychwynnodd Michelet ar ei yrfa'n athro yn 1822. Fe'i penodwyd yn athro hanes ac athroniaeth yn yr École Normale Supérieure yn 1827.[2] Ymhlith ei gyhoeddiadau cynnar oedd cyfieithiad o Scienza nuova gan Giovanni Battista Vico.

Ymunodd Michelet â'r Collège de France yn 1838. Cydweithiodd gyda Edgar Quinet ar lyfr oedd yn lladd ar yr Iesuwyr. Yn ei lyfr Le Peuple (1846), mynegodd ei gydymdeimlad â'r dosbarthiadau israddol mewn cymdeithasau diwydiannol.

Cefnogodd wethoedd y Chwyldro Ffrengig, a chafodd ei siomi gan fethiant chwyldroadau 1848, diddymu'r Cynulliad Cenedlaethol gan Louis Napoleon yn 1851, a sefydlu'r Ail Ymerodraeth yn 1852. Symudodd i'r Eidal am flwyddyn.[2] Cafodd ei ddelfrydau hanesyddol eu chwalu gan Ryfel Ffrainc a Phrwsia yn 1870.

Llyfrau am bynciau eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Dan ddylanwad ei ail wraig, Atanaïs Mialaret (priodasant yn 1849), ymddiddorodd Michelet mewn natur. Ysgrifennodd gyfres o lyfrau am fyd natur: L'Oiseau (1856), L'Insecte (1858), La Mer (1861), a La Montagne (1868). Cyhoeddodd hefyd y llyfrau L'Amour (1858) a La Femme (1860), gwaith am wrachod yn yr Oesoedd Canol, La Sorcière (1862), ac astudiaeth o grefyddau'r byd, La Bible de l'humanité (1864).

Diwedd ei oes[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn Hyères ar 9 Chwefror 1874 o drawiad ar y galon yn 75 oed.[2] Cyhoeddwyd ei ddyddiaduron bron can mlynedd wedi ei farwolaeth: Journal, cyf. 1 (1959) a chyf. 2 (1962), Écrits de jeunesse (1959).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Jules Michelet. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Mawrth 2019.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) "Michelet, Jules (1798–1874)" yn yr Encyclopedia of European Social History (Gale Group, 2001). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 29 Mawrth 2019.