Gwrach

Oddi ar Wicipedia
Gwrachod yn y dychymyg poblogaidd - llun gan Goya, Los caprichos

Yn ôl y darlun traddodiadol, hen wraig sy'n hyddysg yn swyngyfaredd yw gwrach, (hefyd gwiddon, rheibes a dewines) a hen wraig hyll. Ond y tu ôl i'r ffigwr llên gwerin a gwrachod Calan Gaeaf yn y diwylliant traws-Iwerydd cyfoes, yn aml iawn mae chwedlau am wrachod yn deillio o gof am ferched hyddysg mewn meddyginiaeth draddodiadol ac efallai hefyd am offeiriadesau cyn-Gristnogol. Yn ogystal â hynny mae rhai pobl heddiw yn ystyried eu hunain yn "wrachod" mewn crefyddau Neo-baganaidd megis Wica. Yn Ewrop mae'r gred mewn gwrachod yn ofergoel werin holl-Ewropeaidd sy'n hanu o baganiaeth cyn-Gristnogol y cyfandir. Yn Affrica mae’n gred sydd wedi goroesi hyd heddiw ac â'i wreiddiau yn y crefyddau animistaidd.

Gwrachod Cymru[golygu | golygu cod]

Ceir sawl chwedl a thraddodiad am wrachod yn llên gwerin Cymru. Y ffigwr enwocaf efallai yw Ceridwen yn Hanes Taliesin, sy'n berwi pair llawn o berlysiau'r maes i gael hylif gwybodaeth ac Awen i'w rhoi i'w fab Afagddu (ond mae'n debyg mai duwies oedd Ceridwen yn wreiddiol ac nid yw manylion eraill ei phortread yn cyfateb i'r darlun o'r wrach draddodiadol). Yn chwedl Peredur fab Efrog, un o'r Tair Rhamant, ceir Naw Widdon Caerloyw. Mae gwiddon yn hen air am 'wrach', a chlywir sôn am widdonod yn y chwedl Culhwch ac Olwen.

Erledigaeth[golygu | golygu cod]

Cafodd miloedd o bobl yn Ewrop eu cyhuddo o fod yn wrachod a'u dedfrydu i farwolaeth yn ystod y canol oesoedd hyd at y 18fed canrif.[1]

Poblogeiddiwyd yr "hypothesis erledigaeth" yn y 19 ac 20 canrifoedd, sef theori ddadleuol bod yr erledigaeth hon yn profi mai paganiaid cuddiedig oedd llawer o werin Ewrop o hyd. Ers canol y 20fed canrif mae gwrachod cyfoes wedi dod yn gangen hunan-ddynodiad neo-baganaidd, yn enwedig Wica, a grëwyd gan Gerald Gardner, a ddatganodd fod y gelfyddyd wen yn draddodiad crefyddol sydd â gwreiddiau cyn-Gristnogol.[2]

Gwrachod yn y Beibl[golygu | golygu cod]

Mae'r Hen Destament yn gwahardd y defnydd o swyngyfaredd. Cafodd adnodau fel y canlynol eu defnyddio gan yr Eglwys i gyfiawnhau eu gweithredoedd yn erbyn gwrachod.

  • Paid â gadael i ddewines fyw.(Exodus 22:18)
  • Mae unrhyw ŵr neu wraig yn eich plith sy'n ddewin neu'n swynwr i'w roi i farwolaeth; yr ydych i'w llabyddio â cherrig, a byddant hwy'n gyfrifol am eu gwaed eu hunain. (Lefiticus 20:27)
  • Pan fyddi wedi dod i'r tir y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei roi iti, paid â dysgu gwneud yn ôl arferion ffiaidd y cenhedloedd hynny. Nid yw neb yn eich mysg i roi ei fab na'i ferch yn aberth trwy dân; nac i arfer dewiniaeth, hudoliaeth, na darogan; nac i gonsurio, arfer swynion, ymwneud ag ysbrydion a bwganod, nac ymofyn â'r meirw. Mae unrhyw un sy'n ymhel â'r rhain yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD; o achos yr arferion ffiaidd hyn y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn eu gyrru hwy allan o'th flaen. (Deuteronomium 18:9-12)
  • Yn '1 Samuel 28 mae Saul, yn groes i'w gyfraith ei hun, yn defnyddio dewines Endor i gyfathrebu ag ysbryd Samuel.[3]

Gwrachod mewn ffuglen[golygu | golygu cod]

Mae gwrachod yn gymeriadau cyffredin mewn rhai mathau o lenyddiaeth. Yng Ngroeg yr Henfyd cawn "gwrach" - offeiriades yng ngwasanaeth y dduwies Hecate - yn gymeriad amlwg yn y nofel gynnar Yr Asyn Euraidd gan Apuleius.

Cymeriad canolog y nofel Gwrach y Gwyllt gan Bethan Gwanas yw gwrach o'r enw Siwsi Owen sy'n symud i fyw i ganol cymdeithas wledig Gymreig gyda'i bryd ar ddial yn ffyrdd mwyaf ofnadwy ar ddisgynyddion rhai a wnaeth gam â hi yn y gorffennol.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Witchcraft". Encyclopædia Britannica.
  2. Adler, Margot (1979) Drawing Down the Moon: Witches, Druids, Goddess-Worshippers, and Other Pagans in America Today. Boston: Beacon Press. tudalennau 45–47, 84–5, 105.
  3. Y Beibl Cymraeg Newydd, argraffiad diwygiedig, Cymdeithas y Beibl 2004.