Margot Adler
Margot Adler | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 16 Ebrill 1946 ![]() Little Rock ![]() |
Bu farw | 28 Gorffennaf 2014 ![]() o canser ![]() Dinas Efrog Newydd ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | awdur, newyddiadurwr ![]() |
Adnabyddus am | Drawing Down the Moon ![]() |
Mae Margot Adler (ganwyd 16 Ebrill 1946; m. 28 Gorffennaf 2014) yn awdures, newyddiadurwr, darlithydd, Offeiriedais Wicaidd[1] a newyddiadurwr y radio a gohebydd ar gyfer National Public Radio (NPR).[2]
Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]
Ganwyd yn Little Rock, Arkansas, tyfodd Adler yn bennaf yn Ninas Efrog Newydd. Ystyrir ei thaid, Alfred Adler, i fod yn dad seicoleg yr unigolyn.
Addysg[golygu | golygu cod]
Cafodd Adler radd faglor y celfyddydau yng ngwyddoniaeth wleidyddol gan Brifysgol Califfornia, Berkeley a gradd feistr gan Ysgol Raddio Newyddiaduriaeth Prifysgol Columbia yn Efrog Newydd ym 1970. Roedd hi'n Gyd-Nieman ym Mhrifysgol Harvard ym 1982.
Newyddiaduriaeth a'r radio[golygu | golygu cod]
Gweithiodd Adler yn gyntaf i WBAI, FM 99.5, allfa Radio Pacifica yn Ninas Efrog Newydd. Creodd hi'r sioeau siarad Hour of the Wolf ym 1972 (dal i fyw gan Jim Freund) ac Unstuck in Time.
Neo-baganiaeth[golygu | golygu cod]
- Gweler hefyd: Drawing Down the Moon (llyfr)
Ysgrifennodd Adler Drawing Down the Moon: Witches, Druids, Goddess-Worshippers, and Other Pagans in America Today,[3] llyfr o 1979 ynglŷn â Neo-baganiaeth a gafodd eu addasu yn 2006.[4] Ystyrir y llyfr i fod yn drobwynt gyda chylchoedd Neo-baganaidd Americanaidd, am ei fod yn cynnig gwybodaeth am y grefydd yn y Taleithiau Unedig, ac am lawer o flynyddoedd roedd hwn yr unig lyfr cyflwyniadol oedd ar gael i gymunedau Neo-baganaidd yn America. Cyhoeddwyd ei hail lyfr, Heretic's Heart: A Journey Through Spirit and Revolution, ym 1997 gan Beacon Press. Mae Alder yn offeiriedais Wicaidd yn nhraddodiad Gardneraidd, hynafwraig yng Nghyfamod y Dduwies,[1] ac yn cydgyfranogi'r gymuned ffydd Cyffredinolwr Undodaidd.[1]
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
- 1979 - Drawing Down the Moon: Witches, Druids, Goddess-Worshippers, and Other Pagans in America Today.[3] ISBN 0-14-019536-X
- 1997 - Heretic's Heart: A Journey Through Spirit and Revolution (Beacon Press) ISBN 0-8070-7098-X
- 2000 - Our Way to the Stars by Margot Adler & John Gliedman - Motorbooks Intl, ISBN 0760307539, ISBN 9780760307533
Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]
- 1986 - From Witch to Witch-Doctor: Healers, Therapists and Shamans Cymdeithas Archwilio Ymwybyddiaeth - Darlith ar gasét
- 1986 - The Magickal Movement: Present and Future (gyda Isaac Bonewits, Selena Fox, a Robert Anton Wilson) - Trafodaeth banel ar gasét
Cyfweliadau[golygu | golygu cod]
- Drawing Down the Moon: TWPT Talks with Margot Adler Gwefan The Wiccan Pagan Times Archifwyd 2010-02-08 yn y Peiriant Wayback.
- Drawing Down the Moon Golau cylch yn The Wiccan Pagan Times Archifwyd 2008-05-09 yn y Peiriant Wayback.
- Wiccans and Pagans Cyfweliad KNPR
- Margot Adler: Redefining the "Witch Word" Cyfweliad Interfaith Radio
- Cyfweliad The Wild Hunt Archifwyd 2009-07-24 yn y Peiriant Wayback.
Cyfeiriadu[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 1.2 Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enwuuworld1996
- ↑ Gwefan NPR
- ↑ 3.0 3.1 Viking Press 1979. Beacon Press 1987, a Penguin Books 1997
- ↑ "Drawing Down the Moon Spotlight in The Wiccan Pagan Times". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-09. Cyrchwyd 2010-01-12.
- Vale, V. and John Sulak (2001). Modern Pagans. San Francisco: Re/Search Publications. ISBN 1-889307-10-6
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]