Cusan pumplyg
Jump to navigation
Jump to search
Mae'r Cusan pumplyg yn elfen o ddefodau Wica sy'n cynnwys cusanu pum darn y corff. Mae pob un cusan yn cyd-fynd â bendith, sef:
Bendithion ar dy draed, sydd wedi dod â thi i'r ffyrdd hyn.
Bendithion ar dy liniau, a fydd yn penlinio ar yr Allor Sanctaidd.
Bendithion ar dy wain / bidyn, ac hebddo na fyddwn yn bodoli.
Bendithion ar dy fronnau / frest, wedi ffurfio mewn prydferthwch / cryfder.
Bendithion ar dy wefusau, a fydd yn yngan yr Enwau Sanctaidd. [1]
Perfformir y cusan pumplyg fel arfer yn ystod defodau a seremonïau Wica, megis priodasau.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Stewart a Janet Farrar. A Witches' Bible: The Complete Witches' Handbook. Robert Hale Ltd; Argraffiad newydd (30 Ion 1997)
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Geiriadur Dewiniaeth Crefft
- (Saesneg) Llyfr y Cysgodion Gardneraidd