Wica Dianigaidd

Oddi ar Wicipedia
Wica Dianigaidd
Enghraifft o'r canlynolenwad crefyddol Edit this on Wikidata
MathWica Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu21 Rhagfyr 1971 Edit this on Wikidata
SylfaenyddZsuzsanna Budapest Edit this on Wikidata

Traddodiad, neu enwad, o'r grefydd Neo-baganaidd o Wica yw Wica Dianigaidd, hefyd a elwir Dewiniaeth Dianigaidd a Dewiniaeth Ffeministaidd Dianigaidd,[1] Sefydlwyd gan Zsuzsanna Budapest yn America yn y 1970au, ac mae'n canolbwyntio ar addoli'r Dduwies ac ar ffeministiaeth. Mae'n cyfuno elfennau o Wica Draddodiadol Prydain, dewiniaeth werin Eidalaidd a recordiwyd yn y llyfr Aradia, or the Gospel of the Witches gan Charles Leland, gwerthoedd ffeministaidd a defodol, dewiniaeth werin, ac arferiadau iacháu a addysgir oddi wrth ei mam.

Fel arfer, ymarferir Wica Dianigaidd gan gwfennau sydd â gwragedd yn unig.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Falcon River (2004) The Dianic Wiccan Tradition Archifwyd 2005-11-11 yn y Peiriant Wayback.. O WitchVox. Adalwyd 2007-05-23.