Doreen Valiente
| Doreen Valiente | |
|---|---|
Valiente gydag offer defodol | |
| Ganwyd | Doreen Edith Dominy 4 Ionawr 1922 Mitcham, Surrey, Lloegr |
| Bu farw | 1 Medi 1999 (77 oed)[1] Hove, Brighton, Lloegr |
| Gwaith |
|
Roedd Doreen Edith Dominy Valiente (4 Ionawr 1922 – 1 Medi 1999), a ddefnyddiai'r enw crefft "Ameth,"[2] yn ffigwr tra dylanwadol yn Wica, crefydd neo-baganaidd, gan mai un o'r Archoffeiriadesau cyntaf yn Wica Gardneraidd oedd hi. Cafodd hi ei hynydu i mewn i Wica gan Gerald Gardner, ac hi oedd Archoffeiriades Cwfen Bricket Wood.[3] Cafodd hefyd ei hynydu i mewn i Grefft Cochrane a Chwfen Atho.
Ganwyd yn ardal Colliers Wood yn nhref Mitcham, Surrey.[4] Roedd ei thad, Harry Dominy, yn beiriannydd sifil.[5]
Cynhyrchodd Valiente lawer o destunau ysgrythurol pwysig yn Wica, megis Rhin y Gwrachod a Siars y Dduwies, a gafodd ei chynnwys yn Llyfr y Cysgodion Gardneraidd yn gynnar. Cyhoeddodd Valiente hefyd bum llyfr sy'n ymwneud â Wica yn ystod ei hoes. Cyfeirir ati hi fel "mam Swyngyfaredd fodern."[6]
Bu farw yn Brighton yn 77 mlwydd oed.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Obituary: Doreen Valiente". The Independent. London. 20 September 1999. Cyrchwyd 5 April 2019.
- ↑ "Witchcraft & Witches Website". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-11-24. Cyrchwyd 2009-08-12.
- ↑ Valiente, Doreen. An ABC of Witchcraft Past and Present (1994) Llundain: Robert Hale. ISBN 0-7090-5350-9
- ↑ Tapsell 2013, p. 12; Heselton 2016, p. 14.
- ↑ Tapsell 2013, t. 12.
- ↑ Charge of the Goddess: The Mother of Modern Witchcraft