Aradia, or the Gospel of the Witches

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Aradia-title-page.jpg
Tudalen flaen yr argraffiad gwreiddiol a gyhoeddwyd ym 1899
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol gwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
Awdur Charles Godfrey Leland
Cyhoeddwr David Nutt
Gwlad Y Deyrnas Unedig
Iaith Saesneg
Dyddiad cyhoeddi 1899 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd 1897 Edit this on Wikidata
Genre Llên gwerin, Dewiniaeth
Prif bwnc llên gwerin, witchcraft Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase /M/089q4j edit this on wikidata

Llyf a ysgrifennwyd ym 1899 ac a ysgrifennwyd gan Charles Godfrey Leland yw Aradia, or the Gospel of the Witches (Aradia, neu Efengyl y Gwrachod). Cais yw'r llyfr i bortreadu credoau a defodau traddodiad o wrachyddiadthna grefyddol gudd yn Nhoscana, Yr Eidal. Dywedodd Leland fod y traddodiad hwnnw wedi goroesi am ganrifoedd nes iddo gael ei ddarganfod yn y 1890au, ond mae ysgolheigion wedi dadlau geirwiredd y datganiad hwn. Serch hynny, daeth y llyfr yn un o destunau sylfaenol yn Wica a Stregheria, mudiadagwrachyddiaeth h Neo-baganaidd.

Mae'r llyfr ei hun yn gyfansawdd, am fod rhai darnau yn gyfieithiadau gan Leland o'r llawysgrif Eidaleg wreiddiol (y Vangelo, sef 'efengyl') i'r Saesneg. Dywedodd Leland ei fod wedi cael y llawysgrif oddi wrth rywun a oedd yn ymarfer gwrachyddiaeth yr Eidal, gwraig o'r enw "Maddalena" yn ôl Leland. Daw gweddill y cynnwys yn sgil ymchwil Leland ar lên gwerin a thraddodiadau'r Eidal, gan gynnwys deunyddiau eraill gan Maddalena. Roedd Leland yn ymwybodol o fodolaeth y Vangelo ers 1886, ond aeth un ar ddeg mlynedd heibio cyn iddo gael copi o'r llyfr oddi wrth Maddalena. Wedi cyfieithu a golygu'r cynnwys, roedd yn ddwy flynedd ychwanegol cyn i'r llyfr gael ei gyhoeddi. Mae ei bymtheg pennawd yn portreadu tarddiadau, credoau, defodau, a swynion y traddodiad gwrachyddiaeth Baganaidd Eidalaidd. Y dduwies Aradia yw prif gymeriad y grefydd honno, a ddaeth i'r Ddaear i addysgu gwrachyddiaeth i'r werin bobl er mwyn iddyn nhw wrthwynebu eu gormeswyr ffiwdal a'r Eglwys Gatholig Rufeinig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]