Thelema

Oddi ar Wicipedia

Thelema (Groeg: Θελημα neu thelema "ewyllys") yw enw athroniaeth a chrefydd gyfriniaethol a gafodd ei sefydlu ym 1904 yn sgil cyfansoddiad y Liber AL vel Legis gan Aleister Crowley (1875-1947). Seilwyd Thelema ar Gyfraith Thelema ac yn bennaf ar ddwy adnod o'r Liber AL vel Legis:

  • “Do what thou wilt shall be the whole of the Law” (AL I:40) a
  • “Love is the law, love under will” (AL I:57).

Diben canolog ymlynwyr Thelema yw darganfod a gweithredu eu "Gwir Ewyllys", a ddiffinir fel natur mewnol neu gwrs bywyd priodol yr unigolyn. Disgrifir y technegau a ddefnyddir i gyflawni hynny gyda'r gair henaidd Saesneg Magick.

Cosmoleg[golygu | golygu cod]

Mae Liber AL vel Legis yn datgelu model o realiti sy'n cyfuno dau rym elfennol: estyniad diderfyn y gofod, sy'n cael ei ymgnawdoli gan dduwies Eifftaidd yr wybren, Nuit, a chanolbwynt y gofod, sy'n cael ei ymgnawdoli gan y duw Eifftaidd Hadit. Mae rhyngweithrediad y ddau ffigwr yma'n achosi i realiti ddod i fodolaeth.

Dau o dri phrif lefarydd yn Liber AL vel Legis yw Nuit (hefyd: Nu) a Hadit (hefyd: Had), gyda Nuit yn llefaru ym Mhennod I a Hadit yn llefaru ym Mhennod II. Y trydydd llefarydd, ym Mhennod III, yw'r dduw â phen yr hebog, Ra-Hoor-Khuit (Horws), "arglwydd yr epoc cyfredol".

Ymhlith ffigyrau pwysig eraill Thelema ceir:

  • Aiwass: angel neu fod goruwchnaturiol a ddatgelodd Liber Al vel Legis i Aleister Crowley yng Nghairo.
  • Heru-ra-ha: enw arall ar Horws a chyfuniad o Ra-Hoor-Khuit a Hoor-par-kraat.
  • Hoor-par-kraat neu Heru-pa-kraath neu Harpocrates: Horws ar ffurf plentyn noeth.
  • Babalon neu'r Wraig Ysgarlad (Saesneg: The Scarlet Woman), hefyd yr Hwran Fawr a Mam Ffieiddbethau.
  • Y Bwystfil (Saesneg: The Beast).
  • Ankh-af-na-khonsu: offeiriad hanesyddol a fu yn byw yn Thebae yn ystod y bumed brenhinlin ar hugain, o gwmpas 725 CC.
  • Y Tywysog-Offeiriad (Prince-Priest): Aleister Crowley
  • Y Proffwyd a'i Briodferch: Aleister a Rose Crowley.
  • Asar ac Isa: Osiris a Iesu
  • Tahuti: Thoth, duw gwybodaeth, ysgrifennu, iaith, cerddoriaeth, y Lleuad, dewiniaeth a'r ocwlt.
  • Hrumachis: Haul y Wawr, enw arall ar Horws.
Eginyn erthygl sydd uchod am yr ocwlt. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.