Thoth

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
ḏḥwty
Thoth
Thoth.svg
Thoth, fel dyn pen ibis
Canolfan gwlt bwysig Hermopolis
Symbolau Ibis, disg y lleuad, sgrôl papurfrwyn, ysgrifbinnau cyrs, palet ysgrifennu, stylus, babŵn, gloriannau
Cymar Seshat,[1] Ma'at, Nehemtawy[2]
Rhieni Neb (creodd ef ei hun); fel arall Neith neu Ra neu Horws ac Hathor
Plant Seshat yn ôl ambell ffynhonnell

Mae Thoth (o'r Roeg Θώθ thṓth; sy'n dod o'r Aiffteg ḏḥw.ty) yn dduw o'r Hen Aifft. Yn y celfyddydau, gwelir ef fel arfer yn ddyn gyda phen ibis neu fabŵn, anifeiliaid sy'n sanctaidd iddo. Seshat oedd ei wrthran fenywaidd, a Maat oedd ei wraig.[3]

Lleolwyd prif deml Thoth yn ninas Khmun,[nodyn 1][4] a alwyd yn Hermopolis Magna yn ystod cyfnod y Groeg-Rufeinig[5] (roeddent yn ei gysylltu â'u duw nhw, Hermes) a ϣⲙⲟⲩⲛⲉⲓⲛ Shmounein yn y Gopteg. Dinistriwyd Khmun yn rhannol ym 1826.[6] Yn y ddinas honno, Thoth oedd arweinydd yr Ogdoad, wyth duw pwysig a gafodd eu haddoli yn Hermopolis. Roedd hefyd ganddo nifer o gysegrfeydd yn ninasoedd Abydos, Hesert, Urit, Per-Ab, Rekhui, Ta-ur, Sep, Hat, Pselket, Talmsis, Antcha-Mutet, Bah, Amen-heri-ab, a Ta-kens.

Roedd Thoth yn chwarae llawer o rolau pwysig ac amlwg ym Mytholeg yr Aifft, megis cynnal y bydysawd, a bod yn un o ddau dduw ( Maat oedd y llall) a oedd yn sefyll ar naill ochr cwch Ra.[7] Yn hwyrach yn hanes yr Hen Aifft, daeth Thoth yn gysylltiedig â chyflafareddu rhwng duwiau,[8] hudoliaeth, y system o ysgrifennu, datblygu gwyddoniaeth,[9] a beirniadu'r meirw.[10]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau a Nodiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Wilkison, Richard H. (2003). The Complete Gods and Goddesses of Ancient Egypt, p. 166
  2. Bleeker, C. J. (1973). Hathor and Thoth: Two Key Figures of the Ancient Egyptian Religion, pp. 121–123
  3. Thutmose III: A New Biography By Eric H Cline, David O'Connor University of Michigan Press (January 5, 2006) t. 127
  4. National Geographic Society: Egypt's Nile Valley Supplement Map. (Cynhyrchwyd gan Cartographic Division)
  5. National Geographic Society: Egypt's Nile Valley Supplement Map: Western Desert portion. (Cynhyrchwyd gan Cartographic Division)
  6. Miroslav Verner, Temple of the World: Sanctuaries, Cults, and Mysteries of Ancient Egypt (2013) 149
  7. (Budge, The Gods of the Egyptians Cyf. 1 t. 400)
  8. (Budge, The Gods of the Egyptians Cyf. 1 t. 405)
  9. (Budge, The Gods of the Egyptians Cyf. 1 t. 414)
  10. (Budge, The Gods of the Egyptians t. 403)

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Bleeker, Claas Jouco. 1973. Hathor and Thoth: Two Key Figures of the Ancient Egyptian Religion. Studies in the History of Religions 26. Leiden: E. J. Brill.
  • Boylan, Patrick. 1922. Thoth, the Hermes of Egypt: A Study of Some Aspects of Theological Thought in Ancient Egypt. London: Oxford University Press. (Reprinted Chicago: Ares Publishers inc., 1979).
  • Budge, E. A. Wallis. Egyptian Religion. Kessinger Publishing, 1900.
  • Budge, E. A. Wallis. The Gods of the Egyptians Volume 1 of 2. New York: Dover Publications, 1969 (original in 1904).
  • Jaroslav Černý. 1948. "Thoth as Creator of Languages." Journal of Egyptian Archæology 34:121–122.
  • Collier, Mark and Manley, Bill. How to Read Egyptian Hieroglyphs: Revised Edition. Berkeley: University of California Press, 1998.
  • Fowden, Garth. 1986. The Egyptian Hermes: A Historical Approach to the Late Mind. Cambridge and New York: Cambridge University Press. (Reprinted Princeton: Princeton University Press, 1993). ISBN 0-691-02498-7.
  • The Book of Thoth, by Aleister Crowley. (200 signed copies, 1944) Reprinted by Samuel Wiser, Inc 1969, first paperback edition, 1974 (accompanied by The Thoth Tarot Deck, by Aleister Crowley & Lady Fred Harris)


Gwall cyfeirio: Mae tagiau <ref> yn bresennol ar gyfer y grwp "nodyn", ond ni chafwyd tag <references/>, ynteu roedd </ref> terfynol yn eisiau.