Osiris
![]() | |
Enghraifft o: | duwdod yr Hen Aifft, duwdod natur, dwyfoldeb adgyfodiad ![]() |
---|---|
Rhan o | dywylliant yr Hen Aifft ![]() |
![]() |

Duw yr Hen Aifft oedd Osiris, a gysylltir yn bennaf â'r ôl-fywyd, yr isfyd/annwn, a'r meirw. Ef yw duw'r trawsnewid, ailgyfodedigaeth, ac atgenhedlaeth. Darlunnir ef fel arfer yn ddyn â chreon gwyrdd a barf ffaro, wedi'i wisgo fel mymi ar ei goesau, dan wisgo coron amlwg sydd â dwy bluen estrys fawr ar bob ochr y goron. Mae hefyd yn dal magl a ffust symbolaidd. Ystyrid Osiris ar un adeg yn fab hynaf i dduw'r ddaear Geb, er bod ffynonellau eraill yn dweud mai mab i dduw'r haul, Ra, yr ydoedd,[1] a duwies y nefoedd, Nut, yn ogystal â bod yn frawd a gŵr i Isis, gyda Horus yn fab iddo ond ar ôl i Osiris farw.[1] Cysylltir ef hefyd â'r epithet Khenti-Amentiu, sy'n golygu "Blaen y Gorllewinwyr", cyfeiriad i'w frenhiniaeth yng ngwlad y meirw.[2] Fel rheolwr y meirw, adweinir Osiris weithiau fel "brenin y [bodau] byw": roedd yr hen Eifftwyr yn ystyried y meirw bendigaid yn "fodau byw".[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Richard H. Wilkinson, The Complete Gods and Goddesses of Ancient Egypt (Llundain: Thames & Hudson, 2003), t.105
- ↑ Mark Collier a Bill Manley, How to Read Egyptian Hieroglyphs (Llundain: British Museum Press, 1998), t.41
- ↑ Erik Hornung, Conceptions of God in Ancient Egypt: The One and the Many (Cornell University Press, 1996), t.233
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Martin A. Larson, The Story of Christian Origins (1977)
- C. W. Leadbeater, Freemasonry and its Ancient Mystic Rites (Gramercy, 1998)