Isis
Gwedd
| Enghraifft o: | duwdod yr Hen Aifft |
|---|---|
| Rhan o | mytholeg Eifftaidd |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/09d_8 |

Duwies bwysicaf yr Hen Aifft oedd Isis (Ffurf Roeg ar yr enw Eiffteg Aset neu Eset), merch hynaf y duw Geb a'i gymar Nut. Tyfodd ei chwlt i fod yn ddylanwadol iawn yn yr Henfyd, gan ymledu i Roeg a Rhufain. Cred rhai fod crefydd gyfriniol Isis wedi dylanwadu'n fawr ar y Gristnogaeth gynnar, yn arbennig ar gwlt y Forwyn Fair. Roedd hi'n chwaer a chymar i'r duw Osiris a mam i'r duw Horus.