Neidio i'r cynnwys

Brighton

Oddi ar Wicipedia
Brighton
Mathdinas fawr, ardal ddi-blwyf, tref farchnad Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Brighton a Hove
Poblogaeth134,293 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iCali, Dieppe, Reykjanesbær Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDwyrain Sussex
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd82.67 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr22 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.8208°N 0.1375°W Edit this on Wikidata
Cod OSTQ315065 Edit this on Wikidata
Cod postBN1, BN2, BN50, BN88 Edit this on Wikidata
Map
17 Gorffennaf 2002. The Big Beach Boutique II, dros 250,000 yn gwylio Fatboy Slim yn chwarae'n fyw
Arddangosfa Mini ar ôl taith yrru o Lundain i Brighton
Pier Brighton yn ystod machlud

Tref ar arfordir sir seremonïol Dwyrain Sussex, De-ddwyrain Lloegr, ydy Brighton,[1] sydd ynghyd a'i Hove yn ffurfio Dinas Brighton a Hove. Brighton yw un o drefi glan-môr mwyaf ac enwocaf ym Mhrydain.

Mae anheddiad hynafol Brighthelmston yn dyddio o cyn Llyfr Dydd y Farn (1086), ond trodd yn gyrchfan iechyd yn ystod yr 18g a chyrchfan poblogaidd ar gyfer trip un diwrnod gyda dyfodiad y rheilffordd yn 1841. Profiadodd Brighton dŵf poblogaeth cyflym iawn gan gyrraedd uchafbwynt poblogaeth o 160,000 erbyn 1961.[2] Mae Brighton cyfoes yn ffurfio rhan o glymdref Brighton, Worthing a Littlehampton sy'n ymestyn i lawr yr arfordir, gyda poblogaeth cyfan o tua 480,000.[3]

Lewes Crescent yn Kemptown

Mae Brighton yn gyrchfan twristiaeth poblogaidd gyda nifer o westai, tai bwyta a chyfleusterau adloniant sydd hefyd yn helpu i weini diwydiant cynhadledd busnes. Mae dinas gyfoes Brighton a Hove hefyd yn ganolfan addysg pwysig gyda dwy brifysgol a nifer o ysgolion Seisnig.

Yn Llyfr Dydd y Farn, gelwyd Brighton yn Bristelmestune a sefydlwyd rhent o 4,000 o benwaig.[4] Ym mis Mehefin 1514, llosgwyd Brighthelmstone i'r ddaear gan yr ysbeilwyr Ffrengig yn ystod rhyfel rhwng Lloegr a Ffrainc. Dim ond rhan o Eglwys Sant Nicholas a phatrwm y strydoedd a adnabyddir heddiw fel y Lanes a oroesodd yr ymosodiad. Cyflawnwyd y darlun cyntaf a wyddwn amdano o Brighthelmstone yn 1545, mae'n dangos beth a gredir yw ymosodiadau 1514.[5] Yn ystod yr 1740au a'r 1750au, dechreuodd y meddyg Richard Russell o Lewes, ddarnodi defnydd meddyginiaethol dŵr môr Brighton iw gleifion. Erbyn 1780, roedd datblygiad y terasau Rhaglywiaeth wedi dechrau a daeth y pentref yma'n fuan yn gylchfan ffasiynol Brighton. Annogwyd tef y dref yn bellach yn dilyn nawddogaeth y Tywysog Rhaglyw (yn ddiweddarach Siôr IV) ar ôl ei ymweliad cyntaf yn 1783.[6] Treuliodd lawer o'i amser hamdden yn y dref ac adeiladodd y Pafiliwn Brenhinol drud ac egsotig yn ystod ddyddiau cynnar ei raglywiaeth.

Gyda dyfodiad y rheilffordd yn 1841, daeth Brighton o fewn cyrraedd teithwyr un diwrnod o Lundain, a gwelodd dwf poblogaeth cyflym o tua 7,000 yn 1801 i dros 120,000 erbyn 1901.[7] Gwelodd yr Oes Fictoraidd adeilad nifer o dirnodau enwog yn Brighton gan gynnwys y Grand Hotel (1864), Pier y Gorllewin (1866) a Pier y Palas (1899).

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2019
  2. Carder, Timothy (1990). The Encyclopedia of Brighton. S.127 East Sussex County Libraries. ISBN 0-86147-315-9
  3. (Saesneg) KS01 Usual resident population: Census 2001, Key Statistics for urban areas
  4. Brighton yn Llyfr Dydd y Farn (Domesday Book)
  5. Carder (1990), s.17
  6. Carder (1990), s.71
  7. Carder (1990), s.127

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]