Frederick Courtenay Morgan
Frederick Courtenay Morgan | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 24 Mai 1834 ![]() |
Bu farw | 9 Ionawr 1909 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Swydd | Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig ![]() |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol ![]() |
Tad | Charles Morgan Robinson Morgan ![]() |
Mam | Rosamund Mundy ![]() |
Priod | Charlotte Williamson ![]() |
Plant | Courtenay Morgan, Is Iarll 1af Tredegar, Frederic Morgan, 5ed Barwn Tredegar, Blanche Morgan, Violet Morgan ![]() |
Roedd y Cyrnol Frederick Courtenay Morgan (24 Mai 1834 - 9 Ionawr 1909) yn swyddog milwrol ac yn wleidydd Ceidwadol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol etholaethau Sir Fynwy a De Sir Fynwy[1]
Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]
Ganwyd Morgan yn Brighton ym 1834 yn drydydd fab i Syr Charles Morgan Robinson Morgan, Barwn 1af Tredegar, 3ydd Barwnig a Rosamund Mundy ei wraig. Roedd yn frawd i Charles Rodney Morgan, Godfrey Charles Morgan.
Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Winchester
Priododd a Charlotte Anne Wilkinson ar 3 Mai 1858 yn Eglwys St George Hanover Square, Llundain, bu iddynt dau fab a dwy ferch:
- Anrh. Blanche Frances Morgan (10 Chwefror, 1859 - 31 Rhagfyr, 1948
- Anrh. Violet Morgan (23 Medi, 1860 - 22 Rhagfyr, 1943)
- Courtenay Charles Evan Morgan, Is-iarll 1af Tredegar (10 Ebrill, 1867 - 3 Mai, 1934)
- Frederic George Morgan, 5ed Barwn Tredegar (22 Tachwedd, 1873 - 21 Awst, 1954)
Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]
Cafodd Morgan gomisiwn yn y Rifle Brigade ym 1853 a bu'n ymladd yn Rhyfel y Crimea ym mrwydrau Alma, Sebastopol, Inkerman a Balaclava. Cafodd ei ddyrchafu'n Is-gapten ym 1854 a Chapten ym 1855. Gadawodd y Fyddin reolaidd ym 1860 gan ymuno ag Ail Fataliwn Reiffl Gwirfoddolwyr Sir Fynwy fel Is-Gyrnol. Ymddiswyddodd ei gomisiwn ym 1873. Yn ddiweddarach bu yn Gyrnol ar Ail Fataliwn Gwirfoddolwyr Cyffinwyr De Cymru.
Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]
Etholwyd Morgan yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros Sir Fynwy yn etholiad cyffredinol 1874 a daliodd y sedd hyd ei ddiddymu yn yr ad-drefnu a daeth yn sgil Deddf Ailddosbarthu Seddi 1885. Yn etholiad cyffredinol 1885, cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Dde Sir Fynwy gan dal y sedd hyd 1906.
Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Bu farw yn ei gartref Castell Rhiwperra Llanfihangel-y-fedw yn 75 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym Masaleg
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Charles Octavius Swinnerton Morgan |
Aelod Seneddol Sir Fynwy 1874 – 1885 |
Olynydd: diddymu'r etholaeth |
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol De Sir Fynwy 1885 – 1906 |
Olynydd: Ivor Herbert |