Charles Rodney Morgan
Charles Rodney Morgan | |
---|---|
Ganwyd | 2 Rhagfyr 1828 Llundain |
Bu farw | 14 Ionawr 1854 Marseille |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | Charles Morgan Robinson Morgan |
Mam | Rosamund Mundy |
Roedd Charles Rodney Morgan (2 Rhagfyr 1828 – 14 Ionawr 1854) yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Aberhonddu rhwng 1852 a 1854.[1]
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd Morgan yng Nghastell Rhiwpera Machen Isaf yn fab i Charles Morgan Robinson Morgan, Barwn 1af Tredegar, a’i wraig Rosomond merch y Cadfridog Godfrey Basil Mundy. Roedd yn frawd i Frederick Courtenay Morgan AS Mynwy a Sir Fynwy a Godfrey Charles Morgan AS Sir Frycheiniog.
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton.
Ni fu’n briod.[2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ymunodd a’r Gwarchodlu Coldstream ym 1847.
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Safodd Morgan yn enw'r Blaid Geidwadol yn etholaeth Aberhonddu ym 1852[3] gan gipio'r sedd oddi wrth yr aelod Rhyddfrydol John Lloyd Vaughan Watkins. Cadwodd y sedd hyd ei farwolaeth ym 1854.
Yn ei anerchiad etholiadol roedd am ymgyrchu:
- yn erbyn gosod diffyndollau a’r fewnforio ŷd
- o blaid cael gwared ar dollau ar frag
- i roi cefnogaeth frwd i Eglwys Loegr ac i wrthwynebu unrhyw ymgais i’w gwanhau
- i wrthwynebu ehangu’r etholfraint[4]
Ond gan iddo farw dim ond dwy flynedd ar ôl ei ethol ni chafodd fawr o gyfle i wireddu ei addewidion etholiadol.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn Marseilles yn 25 mlwydd oed. Cludwyd ei weddillion yn ôl i Gymru i’w rhoi i orwedd ym meddgor y teulu yn Eglwys Basaleg[5].
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Williams, William Retlaw, The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliest times to the present day, 1541-1895 adalwyd 27 Awst 2017
- ↑ "Parliamenary History of Brecon - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1893-11-25. Cyrchwyd 2017-08-27.
- ↑ "ABERHONDDU - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1852-07-22. Cyrchwyd 2017-08-27.
- ↑ Robert Phipps Dod Dod's Parliamentary Companion 1852 adalwyd 27 Awst 2017
- ↑ "FUNERAL OF THE LATE CHARLES RODNEY MORGAN ESQ OF RUPERRACASTLE FOR BRECON - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1854-02-10. Cyrchwyd 2017-08-27.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: John Lloyd Vaughan Watkins |
Aelod Seneddol Aberhonddu 1852-1854 |
Olynydd: John Lloyd Vaughan Watkins |