Charles Morgan Robinson Morgan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Charles Morgan Robinson Morgan
Richard Buckner - Sir Charles Morgan.jpg
Ganwyd 10 Ebrill 1792 Edit this on Wikidata
Bu farw 16 Ebrill 1875 Edit this on Wikidata (83 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tad Syr Charles Morgan, 2ail Farwnig Edit this on Wikidata
Plant Godfrey Morgan, Frederick Courtenay Morgan, Charles Rodney Morgan, Ellen Lindsay Edit this on Wikidata

Roedd Charles Morgan Robinson Morgan, Barwn 1af Tredegar (10 Ebrill 1792 - 16 Ebrill 1875) yn sgweier, ac yn wleidydd Ceidwadol Cymreig yn Nhŷ'r Cyffredin ac yn Nhŷ'r Arglwyddi.[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn fab i Syr Charles Gould Morgan (Gould yn wreiddiol), 2il Farwnig a Mary Margaret Stoney, ei wraig.

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Harrow, Ysgol Westminster a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen lle graddiodd ym 1811.

Ym 1827 priododd Rosamund, merch y Cadfridog Godfrey Basil Mundy. Bu iddynt pum mab a chwe merch.[2]. Roedd yn dad i Charles Rodney Morgan, Godfrey Charles Morgan a Frederick Courtenay Morgan.

Gyrfa filwrol[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwasanaethodd Morgan fel capten ym milisia gorllewin Sir Fynwy o 1812, ym milisia gogledd Hampshire o 1819, ym milisia gorllewin Morgannwg o 1824 a milisia canol Morgannwg o 1829 i 1832.

Ym 1831 bu'n arwain milisia canol Morgannwg yn erbyn terfysgwyr Merthyr ond roedd y milisia yn gwbl aneffeithiol, felly galwyd milwyr llawn amser Ucheldirwyr Argyll a Sutherland i ail-sefydlu'r drefn. Dadfyddiniwyd milisia Canol Morgannwg y flwyddyn ganlynol o ganlyniad i'w aneffeithlonrwydd ond ni roddwyd unrhyw fai ar Morgan am fethiannau'r milisia, yn wir clodforwyd ef fel un haeddiannol o ddyrchafiad milwrol, er ni ddaeth y dyrchafiad  hyd 1846 pryd gafodd ei ddyrchafu yn Gyrnol Penswyddog milisia Gorllewin Mynwy, gan barhau yn y swydd hyd ei farwolaeth.[3]

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyn deddfau diwygio'r Senedd ystyrid bod etholaethau yn eiddo rhai teuluoedd bonheddig; ystyrid bod etholaethau Sir Frycheiniog, Aberhonddu, a Sir a Bwrdeistrefi Mynwy yn eiddo i deulu Morganiad, Tredegar heb nawdd y teulu y byddai'n anodd i ddyn cael ei ethol i'r seddi (er bu ambell eithriad megis John Lloyd Vaughan Watkin). Aelodau'r teulu bydda'n cael y flaenoriaeth wrth ddewis ymgeiswyr, a bu Morganiaid yn cynrychioli’r etholaethau o ddyddiau'r deddfau uno.

Bu Taid Charles Morgan yn Aelod Seneddol Aberhonddu rhwng 1778 a 1787 a Sir Frycheiniog rhwng  1787-1806; bu ei dad yn Aelod Seneddol Aberhonddu rhwng 1787 a 1796 a Sir Fynwy rhwng 1796 a 1800. Bu ei frawd George Gould Morgan yn Aelod Seneddol Aberhonddu o 1818 i 1830; bu brawd arall iddo Charles Octavius Swinnerton Morgan yn Aelod Seneddol Sir Fynwy o 1841 i 1874; bu ei fab Charles Rodney Morgan yn AS Aberhonddu 1852-1854, bu ei fab Godfrey Charles Morgan yn AS Sir Frycheiniog  o 1858 i 1875 a bu ei fab Frederick Courtenay Morgan yn cynrychioli etholaethau yn Sir Fynwy o 1874 i 1906. [4]

Cafodd Charles ei ethol yn Aelod Seneddol Aberhonddu ym 1812 yn 1818 cytunodd ildio'r sedd i George, ei frawd cyn ei hawlio yn ôl yn etholiad 1830. Fe gollodd ei sedd yn annisgwyl i'r ymgeisydd  Rhyddfrydol John Lloyd Vaughan Watkins yn Etholiad Cyffredinol 1832. Cipiodd y sedd yn ôl ym 1835 gan wasanaethu hyd ymddeol o'r sedd ym 1847 gyda'r bwriad o sefyll yn Sir Frycheiniog lle'r oedd disgwyl i'r AS Ceidwadol, Thomas Wood, i ymddeol ond penderfynodd Wood ei fod am geisio eto gan adael Charles heb sedd.

Fe'i benodwyd Uchel Siryf Sir Fynwy ar gyfer 1821-22 ac Uchel Siryf Sir Frycheiniog ar gyfer 1850-51[5]. Cafodd ei urddo'n Farwn Tredegar ym 1859[6] ac roedd yn Arglwydd Raglaw Sir Fynwy o 1866 hyd ei farwolaeth.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Tŷ Tredegar

Bu farw yn ei gartref Tŷ Tredegar, Casnewydd yn 83 mlwydd a rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym meddgor y teulu yn Eglwys Basaleg.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Y Bywgraffiadur MORGAN (TEULU), Tredegar Park , etc., sir Fynwy [1] adalwyd 18 Awst 2015
  2. "DEATH OF LORD TREDEGAR - County Observer and Monmouthshire Central Advertiser Abergavenny and Raglan Herald Usk and Pontypool Messenger and Chepstow Argus". James Henry Clark. 1875-04-24. Cyrchwyd 2015-08-18.
  3. The History of Parliament: the House of Commons 1820-1832, ed. D.R. Fisher, 2009 MORGAN, Charles Morgan Robinson (1792-1875), of Ruperra, Glam. and Tredegar, Mon. [2] adalwyd 18 Awst 2015
  4. "Peers of Glamorgan - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1892-05-28. Cyrchwyd 2015-08-18.
  5. "HIGH SHERIFFS FOR SOUTH WALES - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1850-02-08. Cyrchwyd 2015-08-18.
  6. "THE NEW PEERS AND BARONETS - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1859-04-16. Cyrchwyd 2015-08-18.
  7. "THE FUNERAL OF THE LATE LORD TREDEGAR - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1875-04-24. Cyrchwyd 2015-08-18.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Robert Salusbury
Aelod Seneddol Aberhonddu
18121818
Olynydd:
George Gould Morgan
Rhagflaenydd:
George Gould Morgan
Aelod Seneddol Aberhonddu
18301832
Olynydd:
John Lloyd Vaughan Watkins
Rhagflaenydd:
John Lloyd Vaughan Watkins
Aelod Seneddol Aberhonddu
18351847
Olynydd:
John Lloyd Vaughan Watkins
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig
Rhagflaenydd:
Barwniaeth newydd
Barwn Tredegar
1859 – 1875
Olynydd:
Godfrey Charles Morgan
Teitlau Anrhydeddus
Rhagflaenydd:
Robert Jones Allard Kemeys
Uchel Siryf Sir Fynwy
1820
Olynydd:
James Jenkins
Rhagflaenydd:
William Pearce
Uchel Siryf Sir Frycheiniog
1850
Olynydd:
Joseph R Bailey
Rhagflaenydd:
George Pratt
Arglwydd Raglaw Sir Frycheiniog
1866 - 1875
Olynydd:
Joseph R Bailey