Tŷ Tredegar
Ffasâd y gogledd-ddwyrain | |
| Math | plasty gwledig |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Tredegar Estate |
| Lleoliad | Coedcernyw |
| Sir | Casnewydd, Coedcernyw |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 10 metr |
| Cyfesurynnau | 51.56°N 3.03°W |
| Gwleidyddiaeth | |
| Rheolir gan | yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
![]() | |
| Perchnogaeth | teulu Morgan, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
Mae Tŷ Tredegar yng Nghasnewydd yn un o'r enghreifftiau gorau o blasdy Siarl II o'r 17g ym Mhrydain. Mae'r tŷ wedi ei osod yng ngerddi 90 acer (360,000 m²) Parc Tredegar.
Mae'r rhan hynaf o'r adeilad sydd wedi goroesi yn dyddio'n ôl i'r 1500au cynnar. Bu'n gartref i'r teulu Morgans (yr un teulu a Chapten Morgan) am dros pum can mlynedd, cyn newid dwylo i berchnogaeth yr Arglwyddi Tredegar hyd iddynt ei wacau yn 1951.
Bu'r tŷ'n gartref i Ysgol Ferched Gatholig Rhufeinig Sant Joseph tan iddo gael ei brynnu gan y cyngor yn 1974, gan ddod ag ef i'w statws presennol fel y "tŷ cyngor crandaf ym Mhrydain"!
Mae'r cyngor yn arwain teithiau o gwmpas rhan fwyaf o'r tŷ, y prif ystafelloedd, y geginau mawr, sy'n esbonio ei hanes a'r personoliaethau y tu ôl iddi.
