Reykjanesbær

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Arfbais Reykjanesbær
Tref Keflavik o'r harbwr
Eglwys Hafnir

Mae Reykjanesbær yn fwrdeisdref gymharol newydd ar benrhyn yn orllewin Gwlad yr Iâ, Penrhyn y De neu Reykjanesskagi fel y'i gelwir. Ystyr yr enw yw tref y mwg yn Islandeg. Mae'n cynnwys y trefi Keflavík, Njarðvík, a phentref Hafnir, ac, ers 2006 Ásbrú. Crewyd y bwrdeisdref yn 1994 pan bleidleisiodd y tair dref o blaid uno. Gydag oddeutu 18,000 o drigolion, Reykjanesbær yw'r bumed fwrdeisdref fwyaf yng Ngwlad yr Iâ o ran poblogaeth.

Gorwolwg[golygu | golygu cod y dudalen]

Keflavík

O'r tair tref sy'n ffurfio'r fwrdeistref, Keflavík yw'r mwyaf, tra Hafnir yw'r lleiaf a rhyw 10km o bellter. Roedd Keflavík a Njarðvík yn drefi gwahanol yn wreiddiol, ond tyfodd yn raddol gyda'i gilydd yn ystod hanner olaf yr 20g, nes mai dim ond un stryd oedd yr unig beth sy'n eu gwahanu. Roedd ochr ogleddol y stryd yn perthyn i Keflavík a'r ochr ddeheuol i Njarðvík. Ers mis Mai 2009 bu treflab Njarðvík yn lleoliad Amgueddfa'r Llychlynwyr (Viking World Museum).

Yn 2006, pan gaeodd Unol Daleithiau America eu presenoldeb yn Gorsaf Awyr y Llynges yn Keflavik, cafodd y safle ei gymryd drosodd gan yr asiantaeth ddatblygu Kadeco, a'i hailenwi yn Ásbrú. Sefydlwyd prifysgol brefiat ni-er-elw Keilir (Atlantic Centre of Excellence: Keilir, miðstöð vísinda, fræða og atvinnulífs) yno yn 2007.[1] byn hyn mae Ásbrú yn gartref i gampysau sefydliadau addysgol amrywiol a hefyd busnesau, wedi'u sefydlu'n newydd ac wedi'u symud i safle'r awyr.

Gefalldrefi[golygu | golygu cod y dudalen]

Dyma gefelldrefi Reykjanesbær:

  • Y FfindirKerava, Y Ffindir
  • NorwyKristiansand, Norwy[2]
  • Ynysoedd FfaroMiðvágur, Ynysoedd y Ffaroe
  • Unol Daleithiau AmericaOrlando, Florida, UDA[3]
  • SwedenTrollhättan, Sweden

Llefydd Ymweld[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]