Charles Hanbury-Tracy

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Charles Hanbury-Tracy
Charles Hanbury-Tracy.jpg
Ganwyd 3 Gorffennaf 1840 Edit this on Wikidata
Bu farw 9 Rhagfyr 1922 Edit this on Wikidata (82 oed)
Dinasyddiaeth Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaeth gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Captain of the Honourable Corps of Gentlemen-at-Arms, Aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Plaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
Tad Thomas Hanbury-Tracy, 2il farwn Sudeley Edit this on Wikidata
Priod Ada Hanbury-Tracy, Baroness Sudeley Edit this on Wikidata
Plant Algernon Hanbury-Tracy Edit this on Wikidata
Gwobr/au Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata

Roedd Charles Douglas Richard Hanbury-Tracy, 4ydd Barwn Sudeley PC FRS (3 Gorffennaf 184019 Rhagfyr 1922) yn forwr yn llynges Prydain, yn fargyfreithiwr, yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Bwrdeistref Trefaldwyn rhwng 1863 a 1877 ac yn aelod o bendefigaeth Prydain.[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Hanbury-Tracy yn Brighton yn ail fab i Thomas Hanbury-Tracy, 2il Barwn Sudeley, a’i wraig Emma Eliza Alicia Dawkins-Pennant, merch George Hay Dawkins-Pennant, o Gastell y Penrhyn. Roedd yn frawd i Sudeley Charles George Hanbury-Tracy, 3ydd Barwn Sudeley a Frederick Hanbury-Tracy, a’i holynodd fel AS Bwrdeistref Trefaldwyn.

Priododd Ada Maria Katherine Tollemache, merch yr Anrhydeddus Frederick James Tollemache AS, ym 1868. Bu iddynt tri mab a phedair merch.

Gyrfa filwrol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymunodd Hanbury-Tracy a’r Llynges Frenhinol ym 1854. Gwasanaethodd yn y Môr Baltig ym 1855 fel rhan o Ryfel y Crimea, gan chware ran yng Ngwarchae Bomarsund. Bu’n rhan o’r Ail Ryfel Opiwm ym 1859, pan aeth Prydain i ryfel a Tsieina er mwyn ceisio gorfodi’r wlad i wneud masnach yn y cyffur opiwm yn gyfreithiol. Fe’i godwyd yn is-gapten ym 1860 ac yn Is-gapten gynyddiaeth ym 1862 pan fu’n gwasanaethu ar y llong Shannon ym Môr y Canoldir. Ymddeolodd o’r llynges ym 1863.

Gyrfa sifil[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi ymadael a’r llynges aeth yn ddisgybl i Ysbyty’r Brawdlys yn Lincoln’s Inn am gyfnod cyn symud draw i Ysbyty’r Deml Ganol lle cafodd ei alw i’r bar ym 1866. Bu’n gwasanaethu fel ynad heddwch ar fainc Sir Drefaldwyn.

Bu’n gyfarwyddwr ar gwmnïau arfau Chilworth Gunpowder Works a Lord Armstrong’s Ordinance Works. Roedd yn dirfeddiannwr ystâd Gregynog ac ystâd Toddington Manor, Swydd Gaerloyw.

Bu’n gadeirydd comisiwn Prydain i’r arddangosfa drydanol yn Fienna ym 1883, fel cydnabyddiaeth o’i gyfraniad i wyddoniaeth trwy rannu’r hyn dysgodd yn Fienna fe’i hetholwyd yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS) ym 1888. Bu hefyd yn Gymrawd o’r Gymdeithas Archeolegol. Bu’n lladmerydd brwd o’r syniad o sicrhau bod amgueddfeydd, orielau a sefydliadau addysgol yn darparu darlithoedd ac arddangosfeydd oedd yn apelio i’r rhelyw ac nid at yr arbenigwyr yn unig. Ef fu’n gyfrifol am sicrhau bod amgueddfeydd ac orielau yn creu cardiau post o’u daliannau fel swfeniriau i ymwelwyr ac fel modd i ymwelwyr rhannu eu profiadau a chyfeillion.[2]

Aeth i drafferthion ariannol a chafodd ei ddatgan yn fethdalwr ym 1893. Bu hyn yn achos iddo werthu sedd y teulu, Toddington Manor, er mwyn talu ei ddyledwyr.[3]

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi marwolaeth aelod Ceidwadol Sir Drefaldwyn Herbert Watkin Williams-Wynn ym 1862 safodd Hanbury-Tracy yn enw’r Blaid Ryddfrydol yn yr isetholiad gan gael ei drechu’n arw. Safodd yn isetholiad 1863 ym Mwrdeistref Trefaldwyn wedi marwolaeth John Samuel Willes Johnson gan gipio’r sedd oddi wrth y Ceidwadwyr. Cadwodd y sedd hyd iddo gael ei ddyrchafu i Dŷ’r Arglwyddi ar farwolaeth ei frawd hŷn ym 1877.[4]

Gwasanaethodd llywodraeth William Ewart Gladstone fel Arglwydd Wrth Aros (chwip y llywodraeth yn Nhŷ'r Arglwyddi) o 1880 i 1885 ac fel Capten Anrhydeddus Corfflu'r Fonheddwyr Wrth Arfau o fis Chwefror i fis Gorffennaf 1886. Ym 1887 daeth yr Arglwydd Sudely yn aelod o’r Gyfrin Gyngor.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn Petersham, Surrey yn 82 mlwydd oed. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd yn Eglwys Petersham[5]. Fe’i olynwyd i’r farwniaeth gan ei fab William Charles Frederick Hanbury-Tracy

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
John Samuel Willes Johnson
Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn
1863 -1877
Olynydd:
Frederick Hanbury-Tracy