Pier Brighton

Oddi ar Wicipedia
Pier Brighton
Mathparc difyrion, pier Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBrighton a Hove Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau50.8164°N 0.1372°W, 50.8183°N 0.136624°W Edit this on Wikidata
Cod OSTQ3136003765 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

Pier pleser ydy Palas Morol a Pier Brighton yn Brighton, Dwyrain Sussex. Cafodd ei adnabod fel Pier y Palas cyn iddo gael ei ail-enwi gan y perchnogion presennol i Pier Brighton yn 2000 (er na arddelwyd yr enw newydd gan y National Piers Society). Dechreuwyd y gwaith ar y Pier yn 1891 ac agorodd ym mis Mai 1899 ar ôl costio record o £137,000 i'w adeiladu. Agorodd neuadd gyngedd arni, ddwy flynedd yn ddiweddarach. Erbyn 1911, roedd hon wedi troi'n theatr ond cafwyd gwared arni yn 1986, o dan y ddealltwriaeth y buasai'n cael ei hailosod.[1] Ni ddigwyddodd hyn ac mae'r pen tuag at y môr yn edrych yn gymharol gyfoes o'i gymaru â gweddill y strwythr, yn cynnal arcêd adloniant cromennog a sawl reid brawychus, gan gynnwys sawl reid cyffro, reidiau plant, 2 gar sglefrio a cafn boncyff.

Hwn oedd trydydd pier Brighton. Yn gyfnewid am yr hawl i'w hadeiladu, roedd yn rhaid i'r adeiladwyr gytuno i ddymchwel y pier cyntaf, The Royal Suspension Chain Pier 1823, a oedd mewn cyflwr gwael. Yn y diwedd, cyflawnwyd hyn gan storm a'i ddinistrwyd bron yn gyfangwbl gan arbed gwaith i adeiladwyr y pier newydd.

Palas Morol a Pier Brighton

Gwobrau[golygu | golygu cod]

  • 1998 Cymdeithas Genedlaethol y Pier Pier y Flwyddyn

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]