Pafiliwn Brighton
![]() | |
Math | palas, amgueddfa tŷ hanesyddol, tŷ bonedd Seisnig, local authority museum ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Brighton ![]() |
Sir | Dinas Brighton a Hove ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 2.46 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 50.822364°N 0.137717°W ![]() |
Cod OS | TQ3127304188 ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol | Indo-Saracenic architecture ![]() |
Perchnogaeth | Siôr IV, brenin y Deyrnas Unedig ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, parc rhestredig neu ardd restredig Gradd II ![]() |
Manylion | |
Mae Pafiliwn Brighton neu'r Pafiliwn Brenhinol yn gyn gartref brenhinol, yn Brighton, Dwyrain Sussex. Adeiladwyd ar dechrau'r 19g fel encil glanmôr ar gyfer y Tywysog Rhaglyw. Adeiladwyd yn y steil Indo-Saracenic a oedd yn gyffredin yn India drwy rhan fwyaf y 19g.
Hanes[golygu | golygu cod]
Ymwelodd y Tywysog Rhaglyw, a ddaeth yn Siôr IV yn ddiweddarach, â Brighton gyntaf yn 1783, ar ôl i'w feddyg argymell y buasai dŵr môr yn gwneud lles i'w gout. Yn 1786 rhentiodd ffermdy yn ardal Old Steine o Frighton. Yn bell o Lys Brenhinol Llundain, roedd y Pafiliwn hefyd yn lle synhwyrol i'r Tywysog fwynhau ei garwriaeth gyda'i gymar hir-oes, Maria Anne Fitzherbert. Roedd y Tywysog eisiau ei phriodi, ac efallai y gwnaeth hyn yn gyfrinachol, ond roedd yn anghyfreithlon oherwydd ei chrefydd Catholig.

Cyflogwyd y pensaer, Henry Holland yn fuan i ehangu'r Pafiliwn. Prynodd y Tywysog dir o amgylch y Pafiliwn hefyd, ac yno adeilaodd ysgol marchogaeth crand mewn steil Indiaidd yn 1803 i gynlluniau gan William Porden.
Rhwng 1815 ac 1822, ailddyluniodd y pensaer John Nash y palas; gwaith Nash sydd yno i'w weld heddw. Mae'r palas yn hynod o drawiadol yng nghanol Brighton, gan fod ganddi olwg Indiaidd ar y tu allan. Er, mae'r dylunio ffansïol tu mewn gan gwmni Frederick Crace a Robert Jones, wedi ei ddylanwadu'n drwn gan ffasiwn Tseiniaidd ac Indiaidd gyda elfennau o bensaerniaeth Moghul ac Islamaidd. Roedd yn esiampl adderchog o'r egsotigaeth a oedd yn wahanol i'r blas cyffredin clasurol y Steil Rhaglyw.
Prynu gan Brighton[golygu | golygu cod]
Wedi marwolaeth Siôr IV yn 1830, arhosodd ei olynydd William IV yn y pafilwn hefyd yn ystod ei ymweliadau â Brighton. Er, ar ôl ymweliad olaf y Frenhines Fictoria i Frighton yn 1845, roedd y llywodraeth yn bwriadu gwerthu'r adeilad a'r tir ond deisebodd y Brighton Commissioners a'r Brighton Vestry yn llwyddiannus i gael y llywodraeth i'w werthu i'r dref am £53,000 yn 1849 dan y Brighton Improvement (Purchase of the Royal Pavilion and Grounds) Act 1850.[1]
Defnydd Diweddarach[golygu | golygu cod]
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf defnyddiwyd y Pafiliwn fel ysbyty ar gyfer gwasanaethwyr Indiaidd a Gorllewin Indiaidd. Amlosgwyd milwyr marw Indiaidd Sikh a Hindw ar y Twyni Deheuol i'r gogledd o Brighton, ble adeiladwyd cofeb tebyg i Bafiliwn.[2]
Mae'r Pafilwn yn agor i ymwelwyr a hefyd ar gael ar gyfer pwrpasau addysgu, gwledda a phriodasau. Mae'r gost mynedfa wedi ei lleihau ar gyfer trigolion lleol yn ystod y gaeaf.
Dylanwadau Diwyllianol[golygu | golygu cod]
Yn Blackadder the Third, mae'r prif gymeriad yn cynnig i'r Tywysog Rhaglyw y dylai "take out the drawings for that beach hut at Brighton" [3]
Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]
- royalpavilion.org.uk
- brighton-dome.org.uk/venues/ Archifwyd 2006-04-19 yn y Peiriant Wayback.
Ffynonellau[golygu | golygu cod]
- ↑ Antony Dale, Brighton Town and Brighton People, 1977, Phillimore, Chichester, tud.221, ISBN 0-85033-219-2
- ↑ Map o gofeb milwyr marw Indiaidd Sikh a Hindw ar y Twyni Deheuol i'r gogledd o Brighton
- ↑ Episode 1 - Dish and Dishonesty,Blackadder