Twyni Deheuol
Gwedd
| Math | cadwyn o fynyddoedd |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Ardal warchodol | South Downs National Park |
| Sir | Hampshire, Gorllewin Sussex, Dwyrain Sussex |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 258.7 mi² |
| Uwch y môr | 889 troedfedd |
| Cyfesurynnau | 50.9°N 0.5°W |
| Hyd | 68.4 milltir |
![]() | |
| Deunydd | sialc |
Cadwyn o fryniau sialc sy'n ymestyn am tua 670 km2 (260 milltir sgwâr) ar draws siroedd arfordirol De-ddwyrain Lloegr yw'r Twyni Deheuol[1] (Saesneg: South Downs). Mae'r Twyni yn ymestyn o Ddyffryn Itchen yn Hampshire yn y gorllewin i Bentir Beachy yn Nwyrain Sussex yn y dwyrain. O'r sgarp serth ar yr ochr ogleddol mae golygfeydd helaeth ar draws y Weald. Butser Hill yw pwynt uchaf y Twyni, gyda chopa 270 metr (890 troedfedd) uwchben lefel y môr. Nodweddir y dirwedd gan dwyndir tonnog, dyffrynnoedd sych, a tiroedd helaeth o laswellt byr.
Mae'r Twyni Gogleddol yn gadwyn arall o fryniau sialc sy'n rhedeg yn gyfochrog â'r Twyni Deheuol, tua 30 milltir (48 km) i'r gogledd, ar ymyl ogleddol y Weald.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Tirwedd nodweddiadol y Twyni Deheuol: ger Arundel, Gorllewin Sussex
-
Y sgarp serth ar ochr ogleddol y Twyni:
Firle Beacon, Dwyrain Sussex -
Dyffryn sych yn y Twyni: Devil's Dyke ("Clawdd y Diafol"), i'r gogledd o Brighton
-
Mae'r Twyni'n cyrraedd y môr yn eu pen dwyreiniol: Y Seven Sisters ("Y Saith Chwaer"), Dwyrain Sussex
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, down1 n > the South Downs.
