Wica Alecsandraidd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Traddodiad o Wica, sydd yn grefydd Neo-baganaidd, yw Wica Alecsandraidd. Sefydlwyd ef gan Alex Sanders (a elwir yn "Brenin y Gwrachod" weithiau[1]) gyda'i wraig Maxine Sanders yn y 1960au yn y Deyrnas Unedig. Mae Wica Alecsandraidd yn debyg iawn i Wica Gardneraidd, ac ystyrir ef fel y traddodiad mwyaf hysbys yn y grefydd.[2]

Cychwyniadau a hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Seilir y traddodiad yn fawr ar Wica Gardneraidd, gan y cafodd Sanders hyfforddiant ynddo a hynny i'r Radd Gyntaf.[3] Y mae hefyd yn cynnwys elfennau o ddewiniaeth seremonïol a Chabbala Hermetig, a astudiodd Sanders ar ei ben ei hun.

Daeth enw'r traddodiad o enw Alex Sanders ei hun ac o Lyfrgell Alecsandria, llyfrgell gyfrin hynafol, a oedd yn un o lyfrgelloedd y byd.[4][3] Dewiswyd i ddefnyddio enw'r llyfrgell ar ôl i Sanders ei gweld fel ymgais cynnar i ddod â gwybodaeth a challineb y byd at ei gilydd mewn un lle.[5] Mae Maxine Sanders yn cofio'r cafodd yr enw'i ddewis pan ddechreuodd myfyriwr Sanders, Stewart Farrar, ysgrifennu'r llyfr What Witches Do. "Gofynnodd Stewart beth ddylai Gwrachod sydd wedi cael eu hynydu i mewn i'n Cwfen alw eu hunain; ar ôl peth ddadlau, penderfynodd [Alex] i ddefnyddio "Alecsandraidd", a'r oedd Alex a minnau'n hoffi ef. Cyn hynny, roeddem yn ddigon hapus i gael ein galw'n Wrachod".[6]

Ymarferir Wica Alecsandraidd y tu allan i'r DU hefyd, gan gynnwys Canada ac Unol Daleithiau America. Mae Encyclopedia Mystica yn dweud "o ganlyniad i gyhoeddusrwydd negyddol Sanders, nid oedd Wica Alecsandraidd yr un mor boblogaidd â Wica Gardneraidd. Ers y 1980au, nid oedd dim cysylltiad â Sanders ei hun gan gwfenni Alecsandraidd Americanaidd. Mae cwfenni Alecsandraidd wedi gwneud yn well yng Nghanada lle'r oeddent yn gryf cyn cyhoeddusrwydd negyddol Sanders".[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. . ISBN 0-432-07675-1.  Unknown parameter |blwyddyn= ignored (help); Unknown parameter |teitl= ignored (help); Unknown parameter |awdur= ignored (help); Unknown parameter |cyhoeddwr= ignored (help); Missing or empty |title= (help)
  2. Gweler . ISBN 0-670-28342-8.  Unknown parameter |blwyddyn= ignored (help); Unknown parameter |teitl= ignored (help); Unknown parameter |awdur= ignored (help); Unknown parameter |cyhoeddwr= ignored (help); Unknown parameter |dolenawdur= ignored (help); Missing or empty |title= (help), a . ISBN 0-919345-40-9.  Unknown parameter |blwyddyn= ignored (help); Unknown parameter |teitl= ignored (help); Unknown parameter |awdur= ignored (help); Unknown parameter |cyhoeddwr= ignored (help); Missing or empty |title= (help), ymysg eraill.
  3. 3.0 3.1 . Citadel Press. 2004. pp. 5–6. ISBN 0-8065-2407-3 http://books.google.com/books?ie=UTF-8&hl=en&id=xuvLRbKvyGEC&dq=%22Janet+Farrar%22&prev=http://books.google.com/books%3Flr%3D%26q%3D%2522Janet%2BFarrar%2522%26start%3D0&lpg=PA95&pg=PA95&sig=XGGTFUOOrBOlalf5J7h3ArphKXY.  Unknown parameter |teitl= ignored (help); Unknown parameter |awdur= ignored (help); Missing or empty |title= (help)
  4. "Error: no |title= specified when using {{Cite web}}". http://www.witchvox.com/va/dt_va.html?a=usxx&c=trads&id=8796. Adalwyd 18 Mawrth 2007.
  5. "Error: no |title= specified when using {{Cite web}}". Gay Pagans, Gay Witches...?. http://www.thewellhead.org.uk/GP/moottalk2.html. Adalwyd 11 December 2005.
  6. "Error: no |title= specified when using {{Cite web}}". The Wiccan/Pagan Times. http://www.twpt.com/sanders.htm. Adalwyd 11 December 2005.
  7. "Error: no |title= specified when using {{Cite web}}". Encyclopedia Mystica. http://www.meta-religion.com/Spiritualism/Wicca/alexandrian_wicca.htm. Adalwyd 11 December 2005.