Sgwrs:Cusan pumplyg

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Pa hwyl? Wnewch chi os gwelwch yn dda roi'r ffynhonnell - gyda phob ffaith os gwelwch yn dda. Tydy gosod "Angen Ffynhonell" ddim yn ddigon da. Pobol eraill twp fel ni sy'n gosod y label hwnnw - er mwyn i bobl gwybodus fel chi brofi yr hyn rydych yn ei ddweud. Llywelyn2000 20:11, 20 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Ai "Cusan pumplyg" a olygir? Anatiomaros 21:08, 20 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Mae hyn yn fwy nag amheus, a deud y lleia: "Efallai y mae ef yr ystyr wreiddiol y term bendithion arnoch..." Mae "bendith(ion) arnoch" yn hen hen ddywediad Cymraeg a cheir pethau tebyg mewn sawl diwylliant, yn cynnwys Cristnogaeth ac Islam. Anatiomaros 21:54, 20 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Pumplyg - llawer gwell. Oes mae angen gwybod y ffynhonnell neu bant a hi. Llywelyn2000 23:30, 20 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Diolch i ti, Llywelyn, a chytuno wrth gwrs: mae nhw'n gofyn am ffynhonnell yn yr erthygl Saesneg. Os oes amheuon fel 'na yn cael eu codi am ffeithiau yn yr erthygl sy'n cael ei chyfieithu dylem ni ddim cynnwys nhw yma, yn fy marn i. Anatiomaros 00:05, 21 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]


Cusan pumplyg/bumplyg?[golygu cod]

Mae'r gair "cusan" yn fenywaidd, yndi? Felly, ddylai ddeud "Cusan bumplyg" yndoes? Yr ydym wedi treigo "the kiss" i fod yn "y gusan," felly ni ddylai'r treiglad barhau?

Mae'n enw gwrywaidd benywaidd. "Tri chusan", "cusan gwlyb" ayyb. (ON Cofia llofnodi dy sylwadau, os gwelwch yn dda, trwy roi hyn - ~~~~ - ar y diwedd). Anatiomaros 17:50, 21 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Iawn. Hefyd, am ryw rheswm, nid yw pob tudalen ynghylch Wica, sef yr un yma ac eraill, yn dangos yn y categori Wicaidd, sef http://cy.wikipedia.org/wiki/Categori:Wica. Pam felly? - Glenn
Gr. Mae hynnyn yn digwydd pob amser! Newydd es i yn ôl ar y categori, a mae pobeth yno rŵan!