Résistance
Gwedd
Y résistance (Ffrangeg am wrthwynebiad) neu'r Gwrthsafiad Ffrengig yw'r enw cyffredinol ar y mudiad a oedd yn gwrthwynebu ymosodiad milwrol yr Almaen ar Ffrainc yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd yn safiad yn erbyn yr Almaenwyr, oedd yn meddiannu rhan o Ffrainc, a Llywodraeth Vichy dan Philippe Pétain a oedd yn llywodraethu'r rhan arall dan nawdd yr Almaen. Cafodd y résistance ei hysgogi gan apêl Charles de Gaulle ar 18 Mehefin 1940.
Rhan o'r mudiad oedd y Maquis, oedd yn cynnal rhyfel guerilla, yn bennaf yn yr ardaloedd gwledig. Roedd rhannau eraill o'r résistance yn cyhoeddi newyddiaduron cudd, yn darparu gwybodaeth i'r Cynghreiriaid neu yn cynorthwyo aelodau o luoedd arfog y Cynghreiriaid i ddianc o Ffrainc.