Gwlff Aden
Gwedd
| Delwedd:Gulf of Aden map3.png, Gulf of Aden map-el.svg | |
| Math | bae |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Cefnfor India |
| Gwlad | Iemen, Somalia, Jibwti |
| Yn ffinio gyda | Bosaso |
| Cyfesurynnau | 12°N 48°E |
![]() | |

Gwlff sy'n gorwedd rhwng Corn Affrica a de Arabia yw Gwlff Aden (Arabeg: خليج عدن Khalyj 'Adan; Somaleg: Khaleejka Cadan). Mae'n cysylltu'r Môr Coch, i'r gogledd-orllewin trwy gulfor Bab al Mandab, â Môr Arabia a Chefnfor India i'r dwyrain. Mae'n un o'r llwybrau masnach forwrol prysuraf yn y byd. Fe'i enwir ar ôl dinas Aden.
Y gwledydd sydd ag arfordir ar lan Gwlff Aden yw Iemen yn Arabia, a Jibwti a Somaliland (Somalia) yng ngogledd-ddwyrain Affrica.
