Tetovo

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Tetovo
Тетово
Tetovë
Kalkandelen
Stadtzentrum Tetovo.jpg
Canol Tetovo, 2015
Baner Tetovo
Baner
Arfbais Tetovo
Arfbais
Location in Northwestern Macedonia.
Location in Northwestern Macedonia.
[[File:Nodyn:Location map Republic of Macedonia|210px|Tetovo is located in Nodyn:Location map Republic of Macedonia]]
<div style="position: absolute; z-index: 2; top: Gwall mynegiad: Heb adnabod y nod atalnodi "[".%; left: Gwall mynegiad: Heb adnabod y nod atalnodi "[".%; height: 0; width: 0; margin: 0; padding: 0;">
<div style="font-size: 90%; line-height: 110%; position: relative; top: -1.5em; width: 6em; Gweithredydd < annisgwyl">Tetovo
Location within Republic of Macedonia
Cyfesurynnau: Script error: The function "coordinsert" does not exist.
Country  Macedonia
Municipality Tetovo Municipality
Llywodraeth
 • Maer Teuta Arifi (Undeb Democrataidd dros Gydfyw, DUI)
Arwynebedd
 • Cyfanswm 1,068 km2 (412 mi sg)
Uchder 468 m (1,535 tr)
Poblogaeth (2002)[1]
 • Cyfanswm 52,915

Tetovo (Macedoneg:Тетово, {{IPA Macadoneg:ˈtɛtɔvɔ, {{Albaneg: Tetovë/Tetova; Twrceg: Kalkandelen) - dinas yng ngogledd orllewin Gweriniaeth Macedonia sydd wrth droed mynyddoedd y Šar a'r afon Pena yn llifo drwyddi. Mae bwrdeisdref Tetovo yn 1080km2 ac ar uchder o 468m uwchben lefel y môr. Ei phoblogaeth yw 52,915.[1] Dinas Tetovo yw sedd Bwrdeisdref tetovo. Mae prifddinas Macedonia, Skopje 86km i'r dwyrain , Prishtina a phrifddinas Cosofo 63km i'r gogledd o bellter o'r ddinas. Tetovo yw prifddinas answyddogol yr ardal Albaneg ym Macedonia sy'n ymestyn fel arch ar hyd ochr orllewinnol y wladwriaeth o gyffiniau'r prifddinas, Skopje i lyn Ohrid.[2][3]. Mae'n gartref i'r Blaid Genedlaethol Ddemocrataidd, plaid genedlaetholaidd Albanaidd.[2]

Etymoleg

Yn ôl y chwedl Slafeg, golyga Tetovo "Lle Tetoo". Arwr chwedlonol oedd Tetoo a waredodd y dref o nadroedd.

Etymoleg arall i'r enw yw ei fod yn tarddu o'r gair Slafeg "hteti" sy'n golygu eisiau. O'r herwydd, mae'r enw Tetovo yn dod o hyd i fod yn heibio Htetovo neu "lle rydym ni eisiau byw". Roedd yr / h / cychwynnol yn cael ei golli yn rheolaidd yn Macedoneg. Mae'r amrywiant Albaneg yn addasiad uniongyrchol o'r enw Slafeg (gweler -ovo / -evo).

Dywedir hefyd fod y gair yn dod o'r Albaneg tet (wyth) ac ov (brwydr) wedi i'r trigolion Albanaidd gipio'r dref mewn wyth brwydr yn 1435.

Enw'r ddinas yn y Twrceg yw Kalkandelen.

Demograffeg

Mae gan Tetovo boblogaeth o 52,915 (Cyfrifiad: 2002).[4] Maent yn byw mewn 12,920 preswylfa gyda 4 peson ar gyfartaledd mewn preswylfa. Ethnigrwydd

  • 28,897 (neu 54.61%) yn Albaniaid
  • 18,555 (35.07%) yn Macedoniaid Slaf
  • 2,352 (4.44%) yn Roma
  • 1,878 (3,55%) yn Twrciaid brodorol
  • 587 (1,12%) yn Serbiaid
  • 156 (0.29%) yn Bosnaciaid Slaf
  • 490 (0.92%) o genedligrwydd arall.

Mamiaith

  • 29,363 (55.49%) Albaneg
  • 18,980 (35.89%) Macedoneg
  • 2,078 (3.93%) Twrceg
  • 1,600 (3.02%) Romani
  • 378 (0.71%) Serbeg
  • 516 (0.96%) yn siarad mamiaith arall.

Crefydd

Hanes

Hanes Cynnar

Gellir dod o hyd i olion cyntaf anheddiad dynol yn y ddinas o'r hynafiaeth. Ei enw yn ystod y cyfnod Rhufeinig oedd Euneum o fen talaith Illyricum. Canfuwyd cerflun hynaf y rhanbarth yn Tetovo yn 1933, sef efydd 9cm o hyd a 4cm o led o'r 6g CC. Dyma'r canfyddiad archeolegol hynaf yn y rhanbarth. Mae bellach yn amgueddfa ddinas.[5]

Ymerodraeth Otomanaidd

Tetovo 1913

Concrwyd y dref gan Ymerodraeth Otomoanaidd ar ddiwedd 15g wedi marwolaeth yr arweinydd Albanaidd, Skanderbeg. Galwyd y drefn yn Kalkandelen gan y Twrciaid. Nodwyd ganddynt fod y dref yn y 15g yn cynnwys masnachwyr a chreffrwyr ac wedi tyfu ers y goncwest. Yn 1470, ysgrifennodd teithiwr Twrcaidd fod Tetovo yn dechrau edrych fel dinas. Cyfeirir at Tetovo fel "dinas" ar y tro cyntaf yn 1689.[6]. Yn ystod y cyfnod Otomanaidd sefydlwyd canolfannau diwylliannol pwysig, gan gynnwys llyfrgell Arabati-Tekke o'r 18g a'r 19g, Hammam (baddon Twrcaidd) a'r Mosg Liwgar.[7]. Yn ystod teyrnasiaid yr Otomaniaid roedd Tetovo yn rhan o Vilayet (talaith) Cosofo.

Chwraeodd Tetovo ei rhan yn nhwf yr ymdeimlad genedlaethol a welwyd yn y Balcan trwy gydol y 19g. Yn 1844 cafwyd gwrthryfel Albaniaid erbyn gor-ganoli a threthi uchel yr Ymerodraeth Otomanaidd. Ar ôl y gorchfygiad y gwrthryfel, carcharwyd llawer o ddinasyddion Albaneg Tetovo neu eu halltudio i Asia Leiaf.[8]

Ers y Rhyfel Mawr

Gyda cwymp yr Ymerodraeth Otomanaidd cipiwyd y ddinas gan yr Albaniad, Hassan Prishtina, ond bu ymgiprys rhwng yr Albaniaid, Serbiaid a Bwlgariaid am y ddinas (a Macedonia). Erbyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf daeth Macedonia yn rhan o wladwriaeth newydd Iwgoslafia. Daeth y ddinas yn rhan o Banovina (talaith) Vardar o 1929 i 1941.

Pwyllgor Genedlaethol Albania yn cwrdd yn ninas Tetovo, 1944 (canol chwith, Xhem Hasa a canol dde, Mefail Shehu)

Yn 1941 meddiannwyd Iwgoslafia gan bwerau'r Echel (Axis) a daeth Tetovo o dan reolaeth Albania Fawr a sefydlwyd o dan caniatâd Mussolini gyda'r Balli Kombëtar yn rheoli gyda chefnogaeth milwrol ac ariannol Ffasgwyr yr Eidal a Natsiaid yr Almaen. Codwyd baner Albania, daeth y Franc Albanaidd yn arian swyddogol ac Albaneg oedd iaith swyddogol y weinyddiaeth ac addysg. Gyda'r rhod yn troi yn y Rhyfel, sefydlwyd Plaid Gomiwnyddol Macedonia gan y Serbiaid ar 19 Mawrth 1943 yn Tetovo ond roedd Plaid Gomiwnyddol Albania eisoes wedi ei sefydlu yn y dref. Er gwaethaf buddugoliaeth y Cadfridog Tito a Chomiwnyddion Iwglosalfia yn y rhyfel, roedd cefnogwyr y Balli Kombëtar yn parhau yn y ddinas a parhawyd i ymladd nes 1948.

Er i tai a ffyrdd cael eu codi yn ystod y cyfnod Comiwnyddol, gwelwyd gwrthdaro cyson rhwng Albaniaid yn Tetovo a'r awdurdodau Slaf Comiwnyddol. Yn 1968 mynnodd Albaniaid Tetovo bod ardaloedd Albaniaid Gweriniaeth Sosialaidd Macedonia yn cael eu hatodi i Cosofo a'u cyd-drefnu ar y cyd fel seithfed weriniaeth Iwgoslafia.[9]. Gwrthododd yr awdurdodau hyn ond yn ei le, cytunwyd i awdurdodi'r gwaith o adolygu meysydd llafur a gwerslyfrau er mwyn rhwystro'r hyn a elwir yn "Treiddiad tueddiadau Albanaidd cenedlaetholaidd, iredentaidd a gwrth-chwyldroadol drwy llyfrau testun print a llenyddiaeth." Yn 1974, cadarnhaoedd y cyfansoddiad ffederal a lleihawyd y tensiwn.

Delweddau

Nodyn:Message galerie

Cyfeiriadau

{[cyfeiriadau}}

  1. 1.0 1.1 2002 Census results
  2. 2.0 2.1 Cook, Bernard A. (2001). Europe since 1945: an encyclopedia. Taylor & Francis. pp. 814–. ISBN 9780815340584. 
  3. Trankova, Dimana (2011). "Tito, Teto and Some Troubled Tourism Await You in Tetovo, Macedonia". Balkan Traveller. http://www.balkantravellers.com/en/read/article/211.
  4. 4.0 4.1 Nodyn:Internetquelle
  5. Menada e Tetovës
  6. (Saesneg) Site de la municipalité - Histoire
  7. Vështrimi historik in: tetova.gov.mk (albanisch, englisch und mazedonisch), zuletzt abgerufen am 8. Februar 2012
  8. Miranda Vickers (2008), "Vazhdimi i shpërbërjes së Perandorisë Osmane" (yn Saesneg), Shqiptarët - Një histori moderne [The Albanians - A Modern History], Xhevdet Shehu (trans.), Bota Shqiptare, pp. 48, ISBN 978-99956-11-68-2
  9. Ramet, Sabrina P. (1997). Whose Democracy?: Nationalism, Religion, and the Doctrine of Collective Rights in Post-1989 Eastern Europe. 4720 Boston Way, Lanham, Maryland 20706: Rowman & Littlefield Publishers, Inc. p. 78. ISBN 0 8476 8324 9. Adalwyd 2014-09-13.