Albania Fawr
Enghraifft o: | Iredentiaeth, proposed country, proposed administrative territorial entity, great homeland |
---|---|
Yn cynnwys | unification of Albania and Kosovo |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r term Albania Fawr yn cyfeirio at y tiriogaethau sy'n cynnwys holl boblogaeth (neu ardaloedd traddodiadol) lle mae pobl Albaneg yn byw gyda'r bwriad o'u huno mewn un wladwriaeth Albanaidd. Gellir cael amrywiaethau ar yr union ffiniau y dyheuad yma ond mae'n cynnwys y cyfan o wladwriaeth gyfoes Albania, Cosofo, rhannau gorllewinnol Gweriniaeth Macedonia lle mae'r Albaniaid yn byw, rhannau deheuol o Montenegro ac, mewn rhai achosion, rhan ogleddol rhanbarth Epirus yng ngogledd Gwlad Groeg, er bod yr iaith wedi colli tir yno yn ddiweddar.
Terminoleg
[golygu | golygu cod]Er mai 'Albania Fawr' a ddefnyddir gan amlaf gan wledydd tramor i ddisgrifio'r dyheuad yma, mae'n well gan yr Albaniad ei hunain yn term, 'Albania Ethnig' (Shqipëria Etnike) neu 'Ail-uno Cenedlaethol Albania' (Ribashkimi kombëtar shqiptar).[1] Dadl yr Albaniaid yw bod defnyddio term 'Albani Fawr' yn gamarweiniol a'i fod fel petai rhan o Gymru wedi ei thorri oddi ar Gymru yn erbyn ei hewyllus a bod galw am ail-uno Cymru gysystyr â dyheuad imperialaidd.
Hanes
[golygu | golygu cod]Ymerodraeth Otomanaidd a Chytuneb Llundain
[golygu | golygu cod]Rhanwyd yr Albaniaid rhwng pedwar vilayet o fewn Ymerodraeth Otomanaidd Twrci; Cosofo, Scutari, Monastir a Janina. Ystyrir mai sefydlu Cynghrair Prizren (sef cyngor yn Cosofo) yn 1878 oedd man cychwyn y mudiad cenedlaethol Albanaidd fodern. Galwai'r Albanaid am uno'r Albaniaid o fewn un vilayet o fewn yr Ymerodraeth[2] ac am sicrhau hawliau diwylliannol ac ieithyddol. Roedd hunaniaeth Albanaidd yn dal yn deyrngar i'r Ymerodraeth yn rannol gan mai Mwslemiaid oedd mwyafrif yr Albaniaid.
Gyda Rhyfel y Balcan cwympodd awdurdod yr Ymerodraeth a datganodd Ismail Qemali annibyniaeth Albania ar 28 Tachwedd 1912 yn Vlorë.[3] y brif sbardun dros datgan annibyniaeth oedd i rwystro tiroedd Albanaidd yn cael eu meddiannu gan wlad Groeg a Serbia.[3][4]. Roedd gwrthwynebiad i'r syniad o Albania 'fawr' ar sail creu gwladwriaeth Mwslim yn Ewrop[5]. Tra roedd eraill, megis Awstria a'r Eidal, yn barod i gefnogi rhyw ystym ar wladwriaeth Albanaidd er mwyn rhwystro Serbia (a'i chefnogwyr, Rwsia) rhag cael arfordir lle gallai reoli'r môr Adriatig.[6][7][8][9][10].[11][12][13].
Ysywaith, yn sgil Cytundeb Llundain 1913 er i wladwriaeth newydd Albania gael ei chreu a'i chydnabod roedd tua hanner y tiriogaethau Albaniaidd a 40% o'r boblogaeth y tu allan i ffiniau'r wlad newydd,[14] rhywbeth y mae Albaniaid wedi tueddu i ystyried fel anghyfiawnder a osodir gan y Pwerau Mawr.
Yr Ail Ryfel Byd
[golygu | golygu cod]Yr unig bryd i'r Albaniaid cael eu huno o fewn un wladwriaeth yn y cyfnod modern yw yn ystod yr Ail Ryfel Byd o dan chydsyniad yr Eidal a'r Almaen.
Yn 1939, aeth y Plaid Ffasgaidd Albania yn blaid llywodraethol Albania o dan reolaeth ffasgaidd yr Eidal. Cytunodd y Prif Weinidog, Shefqet Verlaci, i uno Albania gyda'r Eidal gan ei fod eisiau cefnogaeth yr Eidal i uno Cosofo a'r tiroedd Albanaidd eraill i 'Albania Fawr'. Gwireddwyd y freuddwyd yma wedi i bwerau'r Echel (Axis) feddiannu Iwgoslafia a Groeg ym mis Mai 1941 ac unwyd bron y cyfan o diroedd Albanaidd mewn un talaith.[15][16]. Cefnogwyd y drefn newydd gan y grwp cenedlaetholaidd milwrol, Balli Kombëtar - yr bod y Balli yn erbyn rheolaeth yr Eidal a'r Almaen ar ei tir. O fewn y tiriogaeth gwnaethpwyd Albaneg yn iaith swyddogol ac iaith addysg a defnyddiwyd y Franc Albanaidd fel arian. Roedd y tiriogaeth yn cynnwys y cyfan o Albania, bron y cyfan o Cosofo, rhan o Macedonia a darnau llai o Montenegro. Arhosodd ardal Chameria o dan reolaeth filwrol yr Eidal yng ngwlad Groeg, ac felly, yn dechnegol, yn rhanbarth o Roeg.
Gyda cwymp lluoedd yr Echel yn 1944 yn Iwgoslafia, chwalwyd undod 'Albania Fawr'.
Rhyfeloedd Iwgoslafia 1990au
[golygu | golygu cod]Nôd Byddin Rhyddhau Cosofo (KLA) oedd gwahanu Cosofo oddi ar Iwgoslafia gan greu Albania Fawr yn cwmpasu Cosofo, Albania, a lleiafrif ethnig Alanaidd yn Macedonia. Mynnodd Cadlywydd y KLA Sylejman Selimi: "Mae'r genedl Albanaidd yn bodoli, de facto. Y drychineb yw bod pwerau Ewropeaidd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf yn penderfynu rhannu'r genedl honno rhwng nifer o wladwriaethau Balcan. Rydym bellach yn ymladd i uno'r wlad, i ryddhau pob Alban, gan gynnwys y rhai yn Macedonia, Montenegro, a rhannau eraill o Serbia. Nid Cosofo yn unig fyddwn ni'n rhyddhau."
Daeth yr ymladd dros annibyniaeth Cosofo oddi wrth Iwgoslafia gyda Chytuneb Kumanovo ar 9 Mehefin 1999. Gydag hynny dechreuwyd y broses o gydnabod Cosofo fel gwladwriaeth annibynnol arwahân i Albania.
Ym mis Chwefror 2001 dechreuwyd gwrthryfel Albanaidd gan yr Byddin Rhyddid Cenedlaethol (Albaneg: Ushtria Çlirimtare Kombëtare - UÇK) dros uno rhannau Albanaidd Macedonia gyda Cosofo. Nôd y UCK oedd ennill hawliau cyfartal i'r Albaniaid o fewn Macedonia Cyf-ffederal.[17] Mynodd uwch swyddogion o fewn y mudiad; "Dydym ni ddim eisiau tanseilio sefydlogrwydd a undod tiriogaethol Macedonia, ond wnawn ni ymladd rhyfel guerrilla nes i ni ennill ein hawliau sylfaenol, nes i ni gael ein derbyn fel pobl gyfartal o fewn Macedonia." [18] Daeth yr ymladd i ben gyda Dealltwriaeth Ohrid ar 13 Awst 2001 pan gytunwyd ar hawliau ieithyddol a chenedlaethol i'r Albaniaid ym Macedonia ond i gadw ffiniau'r wlad.
Irredentiaeth Somali dan reolaeth yr Eidal
[golygu | golygu cod]Nid tirogaethau yr Albaniaid oedd yr unig tiroedd i'w huno gan luoedd Mussolini yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Unwyd tirogaethau'r Somaliaid o dan reolaeth yr Eidal i wireddu uno Somalia gyfoes, Somaliland, Jibwti, Ogaden (yn Ethiopia gyfoes), gogledd-ddwyrain Cenia eraill i greu Somalia Fawr.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Alternativat e ribashkimit kombëtar të shqiptarëve dhe të Shqipërisë Etnike..!". Gazeta Ditore (yn Albanian). 10 Rhagfyr 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Ionawr 2013. Cyrchwyd 1 Ionawr 2013. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link) - ↑ Jelavich 1983, tt. 361–365.
- ↑ 3.0 3.1 Gawrych 2006, tt. 197–200.
- ↑ Fischer 2007a, t. 19
- ↑ Volkan 2004, t. 237
- ↑ Vickers 2011, tt. 69–76.
- ↑ Tanner 2014, tt. 168–172.
- ↑ Despot 2012, t. 137.
- ↑ Kronenbitter 2006, t. 85.
- ↑ Ker-Lindsay 2009, tt. 8–9.
- ↑ Jelavich 1983, tt. 100–103.
- ↑ Guy 2007, t. 453.
- ↑ Fischer 2007a, t. 21.
- ↑ Bugajski 2002, t. 675."Roughly half of the predominantly Albanian territories and 40% of the population were left outside the new country's borders"
- ↑ Zolo 2002, t. 24. "It was under the Italian and German occupation of 1939-1944 that the project of Greater Albania... was conceived."
- ↑ "see map". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-26. Cyrchwyd 2018-03-22.
- ↑ name="Guardian article"
- ↑ "BBC News - EUROPE - Who are the rebels?". Cyrchwyd 5 December 2014.