Iredentiaeth

Oddi ar Wicipedia

Mudiad neu safbwynt gwleidyddol yw iredentiaeth (o'r Eidaleg irredento, "anatbrynedig" neu "heb ei adennill") sydd yn dadlau dros gyfeddiannu tiriogaethau a weinyddir gan wladwriaeth arall ar sail ethnigrwydd neu genedligrwydd cyffredin neu feddiant hanesyddol, mewn gwirionedd neu'n honedig. Cysylltir yn aml ag holl-genedlaetholdeb a gwleidyddiaeth hunaniaeth. Gelwir y tir a hawlir yn irredenta neu'n dir colledig, o safbwynt yr iredentwyr.

Daw'r enw o'r mudiad Eidalaidd irredentismo a geisiodd gyfeddiannu rhanbarthau Eidaleg oddi ar y Swistir ac Ymerodraeth Awstria-Hwngari, ac ardaloedd yn Ffrainc megis Safwy, Nice a Chorsica, yn niwedd y 19g.

Enghreifftiau[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]