Rwmania Fawr

Oddi ar Wicipedia
Rwmania Fawr, România Mare, a'i thaleithiau hanesyddol, (1919–1940)
Arfbais Brenhiniaeth Rwmania, 1921 tan 1947
Rwmania mewn atlas, 1926
Darluniad o bobloedd a siroedd Rwmania, Cyfrifiad 1930)
Colli tiroedd yn 1940: i'r Undeb Sofietaidd (oren tywyll), Hwngari (melyn) a Bwlgaria (gwydd)
Graffiti Rwmania Fawr, Moldofa

Mae Rwmania Fawr (Rwmaneg: România Mare hefyd România Întregită - "Rwmania Integreiddiedig") yn cysyniad gwleidyddol iredentaidd sy'n cyfeirio at diriogaeth Rwmania rhwng yr Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd pan gyrhaeddodd gwlad y Balcanau ei estyniad daearyddol mwyaf.

Nid oes gan y term Rwmania Fawr yr un adlais gwladychol, gall gyfeirio a Frenhiniaeth Rwmania rhwng y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd - gwladwriaeth a gydnebyd yn ryngwladol [1] heddiw, i gyfeirio at freuddwyd i aduno'r tiriogaeth hynny [2][3].

Rhyfel Mawr[golygu | golygu cod]

Arwyddwyd Cytundeb Bucharest (1916) rhwng Brenhiniaeth Rwmania a Chynghreiriaid (Prydain, Ffrainc) ar 17 Awst 1916 yn ninas Bucharest.[4] Roedd y cytundeb yn nodi'r amodau y cytunodd Rwmania i ymuno â'r rhyfel ar ochr yr Entente (Prydain a Ffrainc), yn enwedig addewidion tiriogaethol yn Awstria-Hwngari. Rhwymodd y llofnodwyr eu hunain i gadw cynnwys y cytundeb yn gyfrinachol nes bod heddwch cyffredinol yn dod i ben.

Nododd rhan o'r Proclamasiwn gan y Ferdinand I, Brenin Rwmania, "Mae'n ddiwrnod undeb holl ganghennau ein cenedl. Heddiw, gallwn gwblhau tasg ein cyndadau a sefydlu am byth yr hyn na lwyddodd Michael Fawr i'w sefydlu am eiliad, sef, undeb Rwmania ar ddwy lethr y Carpathiaid." ar 28 Awst 1916[5]

Bathwyd yr enw ychydig ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, pan dderbyniodd Rwmania fel iawndal am diriogaethau hanesyddol rhyfel Transylfania a Bucofina gan Ymerodraeth Awstria-Hwngari a Bessarabia o Rwsia gan Cytundeb Paris 1920.[6] Roedd yr enw'n arwydd o gyflawniad cenedl-wladwriaeth Rwmania ac dadeni diwylliannol a chenedlaethol pwysig. Adlewyrchwyd y newidiadau tiriogaethol yn ddiweddarach yng nghytuniadau maestrefol Paris, Neuilly-sur-Seine (1919), Trianon a Sèvres (y ddau yn 1920). Ar ei fwyaf roedd y wladwriaeth Rwmania Fawr/Brenhiniaeth Rwmania rhwng y ddau ryfel byd yn 295,049 km² o'i chymharu â 238,397 km² gwladwriaeth Rwmania gyfoes.

Rhwng y Ddau Ryfel Byd[golygu | golygu cod]

Yn 1918, ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, unwyd Transylvania, Bucovina a Bessarabia yn nheyrnas hynafol Rwmania.

Transylfania oedd yr olaf i gael ei huno a gwnaeth hynny trwy 'Gyhoeddiad Undeb Alba Iulia'. Cefnogwyd y datganiad gan ASau Rwmania a’r Almaen yn Transylfania ond nid gan Hwngariaid (24%) a bleidleisiodd yn ei erbyn.
Bucofina, pleidleisiodd cyngor cenedlaethol sy'n cynrychioli'r bobl i ymgorffori'r rhanbarth yn y wlad. Pleidleisiodd dirprwyon Rwmania, Almaeneg, Pwyleg ac Iddewig yn y gadarnhaol, ond pleidleisiodd Wcraniaid (37%) yn negyddol.
Besarabia, ar ôl nodi bod gan y Cyngor Gwlad sofraniaeth dros y rhanbarth mor gynnar â 1917, ac er mwyn osgoi anhrefn yn sgil Chwyldro Rwseg, galwyd milwyr Rwmania i mewn i'w hamddiffyn rhag cyrch Bolsieficaidd. Ar 9 Ebril 1918, pleidleisiodd 86 o’r 148 o ASau etholedig dros ymuno â Rwmania. Bessarabia bellach, yw gwladwriaeth Moldofa.

Gweinyddiaeth a Demograffi[golygu | golygu cod]

Coronwyd Ferdinand I a Marie yn Frenin a Brenhines Rwmania Fawr ar 15 Hydref 1922 yn yr Eglwys Gadeiriol Uniongred a adeiladwyd yn arbennig yn ninas Alba Iulia. Ar 29 Mawrth 1923, daeth cyfansoddiad newydd i rym. Sefydlodd hyn system weinyddu unffurf, ganolog ar gyfer y wlad gyfan. Rhannwyd hyn yn 71 județ (sir), pob un ohonynt yn ddarostyngedig i raglaw a benodwyd gan y llywodraeth ganolog yn Bucharest - yn debyg i Départements Ffrainc. Ni ddarparwyd ar gyfer ymreolaeth ranbarthol - er enghraifft ar gyfer y rhanbarthau oedd â phoblogaeth fawr o Hwngariaid, Wcrainiaid, Bwlgariaid neu Almaenwyr - yn y cyfansoddiad yn ôl y "genedl-wladwriaeth unedig ac anwahanadwy".[7] Ni chyhoeddwyd Eglwys Uniongred Rwmania yn eglwys wladol, ond nodwyd ei phwysigrwydd pennaf i'r wlad yn y cyfansoddiad. Mae llawer o'r dinasoedd a arferai fod yn Hwngariaid ac Almaenwyr yn rhan ogledd-orllewinol Ymerodraeth Awstria-Hwngari gynt. Roedd yna lawer o weithgaredd adeiladu, yn enwedig adeiladau'r llywodraeth (prefectures) ac eglwysi Uniongred, a ddyluniwyd yn aml yn yr arddull neo-Bysantaidd neu Neo-Brâncoveanu, a ystyrir yn nodweddiadol o Rwmania.

Yn ôl cyfrifiad 1930, roedd gan Rwmania Fawr boblogaeth o 18 miliwn, ac roedd y Rwmaniaid fel y genedl titiwlar ("titular nation") sef, pen-genedl, prif-genedl, yn cynrychioli 71.9%.[8] Ymhlith y lleiafrifoedd cenedlaethol roedd tua 1.4 miliwn o Magyars (Hwngariaid), 750,000 o Almaenwyr, 730,000 o Iddewon a 580,000 o Iwcraniaid. Mewn rhai ardaloedd, roedd grwpiau ethnig nad ydynt yn Rwmania hyd yn oed yn y mwyafrif. Roedd y Rwmaniaid yn aml yn y lleiafrif, yn enwedig yn ninasoedd yr ardaloedd sydd newydd eu cysylltu.[9] Roedd y lleiafrifoedd ethnig wedi'u hintegreiddio'n wael i wladwriaeth Rwmania: nid oedd dros hanner ohonynt yn siarad Rwmaneg,[9] sef yr unig iaith swyddogol.[10]

Ar ôl Ail Ddosbarthiad Fienna ar 30 Awst 1940 cymerodd yr enw ystyr anorchfygol, oherwydd gyda chaniatâd Cytundeb Molotov–Ribbentrop ym mis Awst 1939, collodd Rwmania diriogaethau Transylvania, Bessarabia a gogledd Bucovina.

Wedi'r Ail Ryfel Byd[golygu | golygu cod]

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ad-enillodd Rwmania diriogaethau yr oedd wedi'u colli yn nwylo Hwngari yn ystod y Rhyfel, ond nid y rhai yr oedd wedi'u colli trwy fyddinoedd Sofietaidd. Felly, roedd yn rhaid iddo roi'r Bessarabia a phedwar ynysig heb drigolion i'r Undeb Sofietaidd a'r cyfran oedd o'r Afon Donaw oedd yn llifo i'r Môr Du.

Cyfoes[golygu | golygu cod]

Gydag arwynebedd o 238,391 km², mae Rwmania heddiw yn cyfateb i oddeutu 80% o diriogaeth Rwmania Fawr.

Heddiw, defnyddir y term yn bennaf wrth gyfeirio at hawliadau cenedlaetholgar am diriogaethau a gollwyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd ac sydd bellach yn diriogaethau'r Wcráin a Moldofa. Yn Rwmania, mae Partidul România Mare ("Plaid Rwmania Fawr") yn cynnwys pobl sy'n gysylltiedig â diogelwch blaenorol y wladwriaeth gomiwnyddol. Mae ei hideoleg yn wrth-Orllewinol, gwrth-Hwngari, gwrth-Ewropeaidd ac yn gymharol wrth-Slafaidd. Bu'r blaid yn lled llwyddiannus ar ddechrau'r 21g gan ennill 19.5% o'r bleidlais yn 2000, ond bellach mae wedi syrthio yn ei phoblogrwydd.

Ceir sôn o bryd i'w gilydd y gall Moldofa ymuno â Rwmania. Rhan o'r apêl dros uno byddai er mwyn bod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd a'r ffaith bod hyd at filiwn o Foldofiaid yn byw yn Rwmania.[11][12] Ond ceir tueddiadau cryf o fewn Moldofa i feithrin ymdeimlad fod yr iaith yn wahanol i Rwmaneg a chadw perthynas agos â Rwsia a theimladau trigolion Rwsieg eu hiaith yn erbyn hyn.[13]

Dyheuadau Iredentaidd Eraill[golygu | golygu cod]

Ceir mudiad neu teimladau Iredentaidd eraill megis Albania Fawr a Somalia Fawr - dau genedl a enillodd tiriogaeth gan uno'r rhelyw o'i siaradwyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd, tra i Rwmania golli tirogaethau yn ystod y Rhyfel. Mae dyheuadau Rwmania, a bodolaeth cenedl-wladwriaeth Rwmania gyfoes, yn gwrthdaro gyda dyheuadau Hwngari Fawr oherwydd yr ymgyprys dros Transylfania.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cas Mudde. Racist Extremism in Central and Eastern Europe
  2. Peter Truscott, Russia First: Breaking with the West, I.B.Tauris, 1997, p. 72
  3. "Moldova's Political self and the energy Conundrum in the Context of the European neighbourhood Policy" (PDF). ISN ETH Zurich. 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2014-05-23.
  4. Constantin Kirițescu, "Istoria războiului pentru întregirea României: 1916-1919", 1922, p. 179
  5. "Primary Documents - King Ferdinand's Proclamation to the Romanian People, 28 August 1916". firstworldwar.com. Cyrchwyd 22 March 2018.
  6. Nodyn:Ref-publicació
  7. Hans-Heinrich Rieser: Das rumänische Banat – eine multikulturelle Region im Umbruch. Jan Thorbecke Verlag, Stuttgart 2001, S. 87.
  8. Lucian Boia: Wie Rumänien rumänisch wurde. Frank & Timme, Berlin 2016, S. 46.
  9. 9.0 9.1 Lucian Boia: Wie Rumänien rumänisch wurde. Frank & Timme, Berlin 2016, S. 48.
  10. Günther H. Tontsch: Der Minderheitenschutz in Rumänien. In: Georg Brunner, Günther H. Tontsch: Der Minderheitenschutz in Ungarn und Rumänien. Kulturstiftung der deutschen Vertriebenen, Bonn 1995, S. 135–136.
  11. https://icds.ee/moldovas-long-road-to-joining-romania/
  12. https://www.youtube.com/watch?v=cAXHXyJvgX8
  13. https://www.theguardian.com/world/2018/may/11/moldova-pm-pavel-filip-rules-out-reunification-romania